Ers 2016 mae’r traethau yn yr Alban oedd yn arfer bod ym meddiant y Frenhines, wedi eu trosglwyddo i ofal Llywodraeth yr Alban.
Tros y penwythnos roedd mudiad YesCymru ar draeth Talacre ar arfordir Sir y Fflint yn pwyso am i’r un peth ddigwydd gydag Ystâd y Goron yng Nghymru.
Yn 2020-21, yn ôl y mudiad, bu cynnydd o 522% yng ngwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru o ganlyniad i brydlesu cynlluniau ynni adnewddiadwy ar y môr.