Dyma gyfle i ddarllen colofn Jason Morgan heb y wal dalu…

Fel arfer mae’r haf yn adeg o edrych ymlaen, cyfle i fynd ar wyliau, cael peint yn yr haul a mwynhau’r tywydd braf. Ond i nifer o bobl yng ngogledd a gorllewin Cymru, o leiaf, mae yna arswyd cynyddol yn ei sgîl, wrth i’r egwyl yn y flwyddyn ysgol ddenu heidiau o dwristiaid o’r ochr draw i’r ffin i darfu ar bopeth.