Mae menter gymdeithasol flaenllaw yn y gogledd sy’n cynnig swyddi a hyfforddiant i bobol ag anableddau dysgu yn eu cymunedau yn cael clod am hybu gweithle dwyieithog.
Mae Antur Waunfawr, sydd â safleoedd yn y Waunfawr a Chaernarfon, yn cyflogi 120 o staff ac yn cefnogi 64 o oedolion ag anawsterau dysgu, gan ddarparu gwasanaethau gwerthfawr ym meysydd ailddefnyddio, ailgylchu ac iechyd a lles.
Nod y fenter gymdeithasol yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol, garbon-isel trwy feithrin teulu o fusnesau lleol cynaliadwy i gefnogi cymunedau cadarn a llesiant i bawb.
Mae busnesau Antur Waunfawr yn ailgylchu gwastraff, yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, yn atgyweirio ac yn ailgylchu dodrefn, yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu tecstilau ac yn llogi ac yn atgyweirio beiciau fel rhan o ganolfan iechyd a lles.
Mae gan y cwmni gwsmeriaid ledled y gogledd.
Mae’r holl staff yn siarad Cymraeg ac mae saith wrthi’n gweithio tuag at brentisiaethau gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n darparu hyfforddiant ledled Cymru, a Progression Training.
Mae un gweithiwr wrthi’n cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes yn uniaith Gymraeg.
Mae dau weithiwr yn anelu at Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailgylchu Cynaliadwy Lefelau 2 a 3 trwy WAMITAB ac mae pedwar yn gweithio tuag at Brentisiaethau City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 yn ddwyieithog.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Antur Waunfawr am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
‘Y Gymraeg yn rhan o hunaniaeth y cwmni’
“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o hunaniaeth y cwmni ac rydan ni’n falch o gael bod yn weithle lle gallwn ni ddefnyddio’r iaith yn naturiol,” meddai Haydn Jones, uwch-reolwr Antur Waunfawr.
“Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn Gymry Cymraeg.
“Ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn dal i gael defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd ar ôl gorffen eu haddysg.
“Does dim rhaid iddyn nhw fod yn rhugl yn yr iaith. Gallan nhw ddefnyddio Cymraeg syml.
“Mae angen i ni groesawu ac annog rhai sy’n dysgu Cymraeg.
“Byddai’n wych pe bai modd defnyddio’r Gymraeg mewn rhagor o weithleoedd.
“Maen nhw’n rhan hanfodol o’n cwmni ni,” meddai wedyn am y prentisiaethau.
“Mae’n ffordd o feithrin datblygiad y staff gan eu helpu i feistroli eu gwaith a rhoi’r hyder iddyn nhw symud ymlaen.
“Rwy’n cael boddhad mawr o weld balchder ein staff pan fyddan nhw’n llwyddo yn eu prentisiaeth.”
‘Cwmni gwych’
Dywed Amy Edwards, pennaeth rheoli adnoddau cynaliadwy ac ynni gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, fod Antur Waunfawr yn “gwmni gwych a gaiff ei arwain gan ei ddatganiad cenhadaeth”.
“Mae’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ar gyfer y gymuned a’r ffordd maen nhw’n gwneud hynny yn wych,” meddai.
“Maen nhw’n awyddus iawn i hyfforddi a chynyddu sgiliau eu gweithwyr ac mae 18 ohonyn nhw wedi gwneud prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.
“Un rheswm dros ein dewis ni i ddarparu hyfforddiant y cwmni ym maes rheoli gwastraff yw bod gennym ni swyddogion hyfforddi ac aseswyr sy’n siarad Cymraeg ac yn gallu cyflenwi’r prentisiaethau’n ddwyieithog gan gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.”
Dywedodd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW fod “llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg”.
“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.
“Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.
“Mae Antur Waunfawr yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
‘Posibl a buddiol’
“Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol,” meddai Dr Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).