Bu’n rhaid i dros 10,000 o bobol â “chyflyrau difrifol” aros dros awr am ambiwlans yng Nghymru ym mis Ebrill, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Cymerodd hi dros awr i ambiwlansys gyrraedd 67.1% – neu 10,157 – o alwadau ‘oren’, yn ôl ystadegau misol Llywodraeth Cymru.
Yn ôl yr ystadegau, sydd wedi cael eu rhannu â’r Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaeth 3,351 o bobol orfod aros dros bedair awr am ambiwlans er bod eu hachos yn un oren.
Mae galwadau ambiwlans yn cael eu dyrannu i gategori coch, oren neu wyrdd. Galwadau coch yw’r rhai lle mae perygl i fywyd. Caiff cyflyrau difrifol fel strôc eu hystyried fel galwadau oren.
Dangosodd yr ystadegau bod 344 o bobol â galwadau oren wedi aros dros ddeuddeg awr am ambiwlans hefyd, tra bod 14 wedi gorfod aros dros ddiwrnod.
Cymerodd hi dros awr i ambiwlans gyrraedd galwadau coch mewn tri achos ym mis Ebrill, dau yn hen Ddyfed ac un yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe.
Dim ond 51% o ambiwlansys gyrhaeddodd achosion lle’r oedd bywyd yn y fantol o fewn y targed o wyth munud, gostyngiad o’r 61% ym mis Ebrill 2021.
‘Sgandal’
Wrth ymateb, dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “sgandal” bod rhaid i bobol aros mor hir am ambiwlans.
“Alla i ddim dychmygu’r trallod mae pobol yn ei deimlo wrth iddyn nhw neu eu hanwyliaid orfod aros mewn poen oherwydd bod camreolaeth Llafur o’r Gwasanaeth Iechyd wedi troi darpariaeth ambiwlansys yn loteri cod post,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod mai ambiwlansys yn mynd yn sownd mewn adrannau brys sy’n gyfrifol am y gohirio, gan eu bod nhw’n llawn a’r llif yn araf oherwydd bod problemau wrth symud cleifion i rannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Dyna pam fod angen cynllun ar Lafur i sicrhau bod pobol yn dod i’r ysbyty fel dewis olaf, nid oherwydd nad oes ganddyn nhw ddim ffydd mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd.”
‘Methu â chynllunio’
Cafodd y Ceidwadwyr Cymreig afael ar yr ystadegau ar ôl ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, a dywed Andrew RT Davies, arweinydd y blaid, fod yr ystadegau’n fwy pryderus gan eu bod nhw wedi gorfod gofyn amdanyn nhw.
“Rydyn ni’n gwybod fod y pandemig wedi taro pob agwedd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn galed, ond rydyn ni’n gwybod fod y Gwasanaeth Iechyd dan Lafur wedi bod mewn cyflwr gwael ers amser hir a bod amseroedd aros ambiwlansys wedi bod yn gwaethygu ers tro.
“Fel dywedais i wrth y Prif Weinidog ym mis Mawrth, mae e wedi methu â chynllunio ar gyfer diwedd cymorth y Fyddin i’r gwasanaeth ambiwlans a nawr mae cleifion a pharafeddygon yn talu’r pris.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r heriau sy’n wynebu’r system gofal brys yn niferus ac yn gymhleth, a dydyn nhw ddim yn unigryw i Gymru ac mae’r heriau’r un fath dros y Deyrnas Unedig.
“Dyna pam ein bod ni’n darparu £25m ar gyfer rhaglen newydd i wella pob agwedd ar ymateb brys, gan gynnwys cynyddu capasiti’r system.”