Mae hi’n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon (Mehefin 20-26), sef wythnos fyd-eang o ŵyl gelf, ddiwylliannol ac addysgol sy’n dathlu ac yn amlygu cyfraniadau, doniau a sgiliau ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Un elusen sy’n cynnal digwyddiadau a chydweithredu gydag elusennau eraill i ddathlu’r wythnos yw Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn ôl Harriet Protheroe-Soltani, eu Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, mae digwyddiadau wedi’u hamserlennu fydd yn dathlu llenyddiaeth, y theatr a pherfformio.

“Y nod yw dod â phobl amrywiol ynghyd i ddathlu’r hyn sydd gennym yn gyffredin,” meddai.

“Gobeithiwn y bydd y digwyddiadau niferus yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid yn helpu’r rhai sy’n cael trafferth dod o hyd i gysur mewn cymuned groesawgar.”

Iachau

Bob blwyddyn, mae thema yn cael ei osod ar gyfer yr wythnos a’r thema eleni yw iachau, sy’n golygu gwella o brofiad neu sefyllfa boenus, fel y gallwn barhau i garu, yn ôl Harriet Protheroe-Soltani.

“Nid oes neb yn deall hyn yn well na’r rhai sydd wedi colli cartrefi neu wedi gorfod adeiladu bywydau newydd o’r dechrau,” meddai.

Ymysg y digwyddiadau eleni mae Gŵyl Noddfa yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 21), sy’n gymysgedd o gerddoriaeth byw gan Gôr Un Byd Oasis, bwyd, a straeon gan westeion arbennig, a’r cyfan am ddim.

Ddydd Iau (Mehefin 23), bydd digwyddiad yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd i ddathlu iachau, sy’n cynnwys gweithgareddau fel ioga, Tai Chi, gweithdy ysgrifennu creadigol, straeon a gweithgareddau i blant a mwy.

Hefyd ddydd Iau, bydd Cymdeithas Cwrdiaid Cymru yn cynnal noson o ddathlu, dawnsio Cwrdaidd, byrbrydau a cherddoriaeth fyw gan y gymuned leol yn y Cornerstone yng Nghaerdydd.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r wythnos, gweler yr edefyn isod.

‘Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn’

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru drwy Glymblaid Ffoaduriaid Cymru, sef casgliad o gyrff sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ar bob cam o’u taith, a gyda’r cymunedau lle maen nhw’n byw.

Mae hyn yn gyfle i’r Cyngor gwestiynu Llywodraeth Cymru am eu cynnydd gyda Chynllun Cenedl Noddfa, yn ôl Harriet Protheroe-Soltani.

“I roi enghraifft, rydym yn gweithio gyda’r Glymblaid Ffoaduriaid i gynnal digwyddiad blynyddol o’r enw Noddfa yn y Senedd – y thema yw addysg a chyflogaeth.

“Yn ystod y digwyddiad, bydd pobol sydd â phrofiad byw yn gallu gofyn eu cwestiynau i Lywodraeth Cymru, a holi am y cynnydd yng nghynllun Cenedl Noddfa.”

‘Pwysicach nag erioed’ fod ffoaduriaid yn teimlo croeso yng Nghymru

Roedd disgwyl i saith neu wyth o geiswyr lloches gael eu symud i Rwanda yr wythnos ddiwethaf (dydd Mawrth, Mehefin 14), ar ôl i ddwsinau ennill achosion cyfreithiol i’w tynnu oddi ar y gofrestr.

Ac mae rhagor o heriau cyfreithiol ar fin cael eu clywed.

“Mae ein gweithwyr achos yn adrodd pa mor anodd y mae cleientiaid yn ei chael y tro hwn, gan eu bod bellach yn byw mewn ofn,” yn ôl Harriet Protheroe-Soltani, sy’n disgrifio’r cyfnod hwnnw fel un “anodd iawn”.

“Mae’n bwysig, yn awr yn fwy nag erioed, fod pobol yn y gymuned Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n cael eu parchu yng Nghymru.”