Mae hwn yn gyfnod hanfodol i addysg yng Nghymru, wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno fis Medi, yn ôl yr Athro Charlotte Williams.

Bydd dysgu am brofiadau a chyfraniadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol mewn ysgolion ar ôl gwyliau’r haf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ar addysgu am gymunedau a chyfraniadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol heddiw (dydd Mercher, Mehefin 22).

Ym mis Gorffennaf 2020, penododd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams i gadeirio Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y cwricwlwm newydd.

Mae’r adroddiad heddiw yn nodi’r cynnydd o wnaed o ran gweithredu’r argymhellion, gyda’r nod o atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu am gyfraniadau a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ledled Cymru o’r gorffennol i’r presennol.

Mae’r camau sydd wedi’u cymryd yn cynnwys:

  • gwneud dysgu hanes pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol yn y cwricwlwm newydd
  • cynnwys cynllun cymhelliant newydd i ddenu mwy o bobol o gefndir du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol i ddysgu
  • cyflwyno deunyddiau dysgu newydd i gefnogi athrawon i addysgu hanes a chyfraniadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
  • cefnogi Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Rhwydwaith Addysg BAME Cymru i sefydlu’r prosiect Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, i ddarparu model cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol i’r rheiny sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu dealltwriaeth a datblygu arferion gwrth-hiliol.
  • Lansio Gwobr Addysgu Proffesiynol newydd Betty Campbell i hyrwyddo’r gwaith mae ysgolion yn ei wneud i addysgu pwysigrwydd cynhwysiant.

‘Adlewyrchu holl boblogaeth Cymru’

Dywed yr Athro Charlotte Williams y bydd y cwricwlwm newydd yn adlewyrchu holl boblogaeth Cymru.

“Bydd elfennau gorfodol newydd y cwricwlwm, yn enwedig addysgu profiadau a chyfraniadau pobol o gefndiroedd lleiafrifol, yn ehangu addysg pob plentyn yng Nghymru, fel ei fod yn adlewyrchu holl boblogaeth Cymru yn well,” meddai.

“Bydd addysgu pobol ifanc am brofiadau a chyfraniadau pobol ethnig leiafrifol yng Nghymru, o’r gorffennol a’r presennol, o gymorth i hyrwyddo gwir newid er mwyn ceisio herio anghydraddoldeb ehangach o fewn cymdeithas.

“Bydd y Gweithgor yn parhau i gynghori’r llywodraeth a chymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau parhad a chynaliadwyedd y gwaith hwn, gan ganolbwyntio ar ei effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn ehangach.”

‘Amrywiaeth’

Gweledigaeth Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Cymru, yw y bydd y Cwricwlwm newydd yn “helpu pob person ifanc i ddeall sut mae ein hanes, iaith a diwylliant unigryw, yn eu holl amrywiaeth, wedi creu’r genedl falch a welir yng Nghymru heddiw”.

“Rwy’n falch o weld ein bod wedi symud ymlaen cryn dipyn, a bod nifer o argymhellion yr adroddiad gwreiddiol wedi eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y system addysg yng Nghymru yn adlewyrchu profiadau Cymru gyfan, o’r gorffennol a’r presennol,” meddai.

“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y cymorth parhaus rydym wedi ei dderbyn gan yr Athro Charlotte Williams OBE, sy’n parhau i chwarae rhan hanfodol drwy ein cefnogi i symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen.”

100 o ysgolion uwchradd am gyflwyno’r cwricwlwm newydd eleni

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu’r cwricwlwm newydd, a bydd y cymwysterau cyntaf yn cael eu dyfarnu yn 2027