Mae 100 o ysgolion uwchradd ar draws Cymru am gyflwyno’r cwricwlwm newydd o fis Medi eleni, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan Covid, rhoddwyd yr opsiwn i ysgolion gyflwyno’r cwricwlwm newydd ar gyfer blwyddyn 7 yn 2022 neu ei gyflwyno ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 yn 2023.
O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu’r cwricwlwm newydd, a bydd y cymwysterau cyntaf yn cael eu dyfarnu yn 2027.
Dywedodd Jeremy Miles: “Rwy’n falch iawn bod bron i hanner yr ysgolion uwchradd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm eleni, gan gynnwys 13 o ysgolion arbennig, 9 ysgol cyfrwng Cymraeg, ac 13 o ysgolion dwyieithog (pob categori).
“Daw’r ysgolion uwchradd sydd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm o 2022 ymlaen o bob rhan o Gymru, yn wledig ac yn drefol, yn fawr ac yn fach, a chydag ystod o broffiliau a phrofiadau gwahanol.
“Rwyf hefyd yn falch o glywed am y gwaith cadarnhaol ac adeiladol y mae ysgolion sy’n cyflwyno’r cwricwlwm o fis Medi 2023 ymlaen yn ei wneud yn eu clystyrau i ddatblygu, treialu a gwerthuso eu cwricwlwm newydd.”
Beth sy’n newid?
- Bydd mwy o hyblygrwydd gan athrawon. Bydd fframwaith cenedlaethol i sicrhau cysondeb a chraidd dysgu, ond bydd athrawon ac addysgwyr eraill yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu sgiliau a’u dealltwriaeth broffesiynol i benderfynu beth i’w addysgu a sut i wneud hynny er mwyn cael y gorau gan eu dysgwyr.
- Mae’r cwricwlwm wedi ei gynllunio o amgylch pedwar diben i ddysgwyr. Bydd y Pedwar Diben yn dod yn derm cyfarwydd i rieni, gofalwyr a phlant. Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio yn y gyfraith beth ddylai diben addysg yng Nghymru fod.
- Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd pynciau cyfarwydd yn parhau i gael eu haddysgu, ond yn cael eu cyflawni fel rhan o feysydd ehangach o ddysgu. Gall ysgolion benderfynu archwilio’r cysylltiadau rhyngddynt, er mwyn i ddysgwyr ddeall y cyd-gysylltedd ac ehangder eu dysgu. Gellir dysgu pwnc fel newid hinsawdd drwy ddaearyddiaeth, hanes, gwyddoniaeth a’r effaith ar gymdeithas.
- Bydd dysgu am hanes Cymru ac am hanes ac amrywiaeth cymunedau, yn enwedig hanesion pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, hefyd yn rhannau gorfodol o’r cwricwlwm newydd.
- Bydd pob plentyn hefyd yn cael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o dan y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, cadw’n ddiogel gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus i sôn wrth oedolion cyfrifol am unrhyw broblemau.