Mae’r gân ‘Porthmyn Tregaron’ allan heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 22), ryw 30 o flynyddoedd ar ôl i’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ddanfon y geiriau at y gantores werin Linda Griffiths.

Mae’r gân wedi’i chyhoeddi ar label Recordiau Maldwyn, un o dri aelod gwreiddiol o’r grŵp Plethyn sydd wedi mynd yn ei blaen i fod yn un o gantorion gwerin amlycaf Cymru, a hithau wedi cyhoeddi sawl albwm unigol ar hyd y blynyddoedd.

“Gyda’r Steddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn prysur nesáu mi gofiais i am eiriau anfonodd Myrddin ap Dafydd ata’i flynyddoedd yn ôl,” meddai wrth drafod gwreiddiau’r gân.

“Does yr un ohonon ni’n dau’n cofio’n iawn, ond mae’n ddigon posib mai yng nghyfnod paratoi ar gyfer Steddfod Aberystwyth yn 1992 y gwnaeth o hynny.”

Gyda’r Eisteddfod yn dod i Dregaron eleni, dyma gyfle euraid i sicrhau bod y gân yn gweld golau dydd.

“Roedd y syniad o ryddhau cân am y bwrlwm yn Nhregaron yn nyddiau’r Porthmyn ar gyfer y Steddfod eleni yn apelio, ac felly mi es i ati, o leia’ 30 mlynedd ar ôl derbyn y geiriau, i gyfansoddi alaw syml ar eu cyfer,” meddai wedyn.

“Mae’r gân yn disgrifio bwrlwm oes a fu, ac mi fydd yna fwrlwm unwaith eto yn Nhregaron adeg wythnos y Steddfod.  Dwi’n edrych ymlaen yn fawr, ac yn gobeithio y bydd y gân yma’n rhan o’r bwrlwm! Haip Trrrrhw-how! Tregaron!”

Nofelau T. Llew Jones yn ysbrydoli’r Archdderwydd

Fel yr eglura Myrddin ap Dafydd, cafodd ei ysbrydoli gan weithiau un o’r awduron amlycaf o Geredigion wrth lunio’r geiriau.

“Y tro cyntaf erioed i mi glywed am Dregaron oedd wrth ddarllen Y Ffordd Beryglus, Ymysg Lladron a Dial o’r Diwedd – nofelau T. Llew Jones am y cymeriad Twm Siôn Cati,” meddai.

“Nid yr un hanesyddol, ond creadigaeth yn nychymyg T. Llew.

“Mi wnaeth y cyfnod hwnnw gyda’i borthmyn a’i baffwyr ffair, lladron pen-ffordd a helyntion y goets fawr apelio’n fawr ata i.

“Doedd dim digon o lyfrau i’w cael wedyn.

“A dwi wedi bod yn ymddiddori yn hanes y porthmyn a’u bywydau mentrus a’u cyfraniad i’r economi wledig fyth ers hynny.”