Wrth i’r ymarferion ar gyfer Lloergan, sioe agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, fynd rhagddynt yn hwylus ym Mhafiliwn Bont, a chydag wythnos yn unig i fynd tan y perfformiad, mae un o ganeuon y cynhyrchiad wedi’i rhyddhau gan y Brifwyl heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 22) ar YouTube ac ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Bydd cast o actorion proffesiynol adnabyddus yn ymuno â chriw cymunedol a chôr yr Ŵyl i gyflwyno sioe arallfydol ar lwyfan y Pafiliwn.
Mae’r stori’n adrodd hanes yr ofodwraig Lleuwen Jones sydd wedi gwireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad.
Wedi dychwelyd yn ôl i’r ddaear mae’n eicon ym myd seryddiaeth tra bod ei gŵr, Gwyn, yn magu eu plant, Seren a Rhys, ar y ddaear, yn ardal Ystrad Fflur, lle cafodd ei eni a’i fagu.
Cafodd y sgript ei hysgrifennu gan y nofelydd a chantores Fflur Dafydd, sy’n wreiddiol o Landysul ac yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan yr Eisteddfod yn derbyn prif wobrau’r Brifwyl, sef y Fedal Ryddiaith yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009.
‘Stori gyfoes, gyffrous’
“Stori am fenyw o Geredigion sy’n gweithio ar y lleuad, yn 2050, ond yn trio cynnal bywyd teuluol prysur ar y ddaear ar yr un pryd” yw disgrifiad Fflur Dafydd o Lloergan.
“Mae’n stori gyfoes, gyffrous, am uchelgais, cariad, ein perthynas gyda’r ddaear, ac mae ’na sawl tro yn ei chynffon!
“Mae Ystrad Fflur ac ardal leol yr Eisteddfod hefyd yn rhan bwysig o’r stori.
“Ro’n i’n teimlo’n angerddol, fel merch o Geredigion, y dylwn gynnwys Ceredigion a’i nodweddion yn y stori.
“Mae’n stori sydd yn gallu cael ei gwerthfawrogi ar sawl lefel – alegori yw hi mewn gwirionedd – am ddilyn eich breuddwydion, am fod yn uchelgeisiol, a sut mae modd cydbwyso dau fyd.”
Bu’n cyd-weithio ar y cynhyrchiad gyda Griff Lynch, aelod o’r band Yr Ods, a Lewys Wyn, Yr Eira.
“Daeth Griff a Lewys ata i i ofyn i fi greu stori ar gyfer y sioe gan bod yr Eisteddfod wedi partneru gyda’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol – roedden nhw’n awyddus i greu sioe gerdd gyda caneuon pop ond roedden nhw angen awdur i gynllunio’r holl beth,” meddai Fflur Dafydd wedyn.
“Nes i fynd ati wedyn i wneud tipyn o ymchwil seryddol – treulio nosweithiau allan yn ardal Ystrad Fflur, llynnoedd Teifi, Cors Caron – cael teimlad o’r ardal a meddwl sut alle’r seryddiaeth (sydd yn faes mor eang) gysylltu gydag un lleoliad penodol.
“Roedd y lloer yn bresenoldeb cyson yn ystod y nosweithiau hynny felly dyma ddechrau meddwl am berthynas y ddaear a’r lloer a pherthynas pobol a’r lloer ar draws amser.
“Es i ati wedyn i sgwennu’r stori o safbwynt un ddynes uchelgeisiol – ac oherwydd y pandemig, a’r ffaith nad oedd modd cael sioe am dair blynedd, es i ati hefyd i sgwennu llyfr ffeithiol-greadigol – Lloerganiadau – sydd yn rhyw fath o gydymaith llenyddol i’r sioe – yn croniclo fy mherthynas i â’r lloer a’r straeon seryddol, a’u cysylltu gyda fy mhrofiadau personol.”
Heriau’r pandemig
Oherwydd y pandemig, doedd Fflur Dafydd ddim wedi cael llawer o amser gyda Griff Lynch a Lewys Wyn fel tim creadigol, felly mae’r cyfan wedi gorfod digwydd ar wahân.
“Fi sydd wedi cynllunio’r sioe a’r stori, gyda chymorth y gyfarwyddwraig Angharad Lee, yna mae Griff a Lewys wedi sgwennu’r gerddoriaeth a’r lyrics i ffitio’r sioe, ac yna mae Rhys Taylor wedi trefnu pob un darn ar gyfer yr unigolion a’r côr,” meddai.
“Ond beth sy’n braf nawr yw bod Rhys, Angharad a finnau yn yr ystafell ymarfer gyda’n gilydd o’r diwedd ac yn gallu cwblhau’r darn yn artistig gyda’n gilydd.
“Caiff y gynulleidfa ddisgwyl perfformiadau gwych Lynwen Haf Roberts a Sam Ebenezer yn y prif rannau – sain anhygoel côr yr Eisteddfod, trefniannau gwych Rhys Taylor o’r caneuon pop, y band a’r synths, y delweddau gofodol – mae’n sioe gwbl gyfoes ond eto un sy’n berthnasol i bob cenhedlaeth.”
Lynwen Haf Roberts a Lleuwen
Lynwen Haf Roberts, yr actores a cherddor o ardal Bangor sy’n chwarae’r brif rhan yn Lloergan.
“Mae Lleuwen wedi gweithio’n galed i gerfio gyrfa iddi hi ei hun mewn maes caled dros ben, ac sydd, yn draddodiadol, wedi’i lywio’n bennaf gan ddynion,” meddai am ei chymeriad yn Lloergan.
“Yn y sioe, mi welwn ni ei brwydr mewnol wrth iddi drio dal ati hefo’r yrfa y mae hi’n ei garu, tra hefyd yn trio aros yn driw i’w theulu – brwydr y mae menywod o bob cefndir yn rhy gyfarwydd â hi!”
Dyma fydd y tro cyntaf iddi gamu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ers sawl blwyddyn bellach.
“Mi fues i’n cystadlu s’lawer dydd – yn unigol a hefyd fel aelod o gôr – felly mae hi’n braf cael bod nôl, a hynny mewn sioe fin nos,” meddai.
Bydd Sam Ebenezer yn dychwelyd i’w filltir sgwâr, fe’i ganwyd yn Rhydypennau ger Aberystwyth, ar ôl sbel yn y West End yn chwarae rhan y ditectif Trotter yn The Mousetrap, y ddrama enwog gan Agatha Christie agorodd gyntaf ar lwyfan yn Llundain yn 1952.
Gruffydd Rhys Davies a Miri Llwyd sy’n chwarae cymeriadau’r plant, gyda Rhiannon Lewis yn gydlynydd ar Gôr yr Eisteddfod.
Bydd Lloergan yn cael ei chyflwyno yn y Pafiliwn nos Wener, Gorffennaf 29 am 7.30yh.
Mae tocynnau ar gael ar wefan yr Eisteddfod – https://eisteddfod.cymru/2022-y-pafiliwn-nos.
Caiff y gyngerdd ei noddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’r prosiect gwreiddiol yn bartneriaeth gyda’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol ac Urdd Gobaith Cymru.