Gyrfaoedd merched, uchelgais a magu plant, gwarchod tir a bro, myned eich taith eich hun. Dyma rai o themâu sioe gerdd fawr yr Eisteddfod eleni…

Dim pwysau, dim ond agor noson gyntaf Eisteddfod Genedlaethol fwyaf hir-ddisgwyliedig y ganrif!

Dyma dasg Côr yr Eisteddfod a gweddill criw sioe gerdd Lloergan ym Mhafiliwn Maes Eisteddfod Tregaron ar y noson agoriadol.