Mae rhaniadau wedi ymddangos ym Mhlaid Cymru yn sgil ail-dderbyn Jonathan Edwards yn aelod.

Cafodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin ei wahardd am 12 mis yn 2020 ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig, Emma Edwards.

Bryd hynny, dywedodd Jonathan Edwards fod yn “wir ddrwg ganddo” a’i fod yn “edifarhau am hyn yn fwy na dim arall yn fy mywyd”.

A dywedodd ei wraig ei bod yn “derbyn” ymddiheuriad ei gŵr.