Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 22) fod dros 100,000 o sesiynau gwylio ar ffrydiau byw Sioe Llanelwedd ar Facebook ac YouTube wedi cael eu nodi ar ddiwedd wythnos lwyddiannus.
Llwyddodd S4C i ddarlledu dros 40 awr ar nifer o lwyfannau gwahanol, gan ddod â holl fwrlwm Y Sioe i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Boom Cymru a Slam Media oedd yng ngofal y cynyrchiadau.
“Mae wedi bod yn wythnos arbennig yn Y Sioe ac rwy’n falch iawn fod S4C wedi gallu dod â darllediadau ecsgliwsif i’r gwylwyr,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.
“Mae’r Sioe Fawr yn un o brif ddigwyddiadau’r calendr amaethyddol yng Nghymru ac roedd hi’n wych gallu dathlu ein cynnwys gwledig gyda’n partneriaid yn Y Sioe.
“Diolch yn fawr i Boom Cymru, Slam â’r tîm i gyd am sicrhau fod bwrlwm Y Sioe i’w fwynhau ar draws holl lwyfannau S4C.”
‘O fore gwyn tan nos, ac o bedwar ban y byd’
“Ar ran Boom Cymru a Slam Media, mae wedi bod yn bleser dod â holl gyffro’r Sioe i amryw blatfformau S4C, a chyrraedd cynulleidfa sy’n mwynhau gwylio’n fyw, ac ar alw ar y cyfryngau cymdeithasol, YouTube, S4C a Clic,” meddai Nia Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru.
“Mae’r ystadegau’n dangos bod ffigyrau gwylio holl arlwy’r digwyddiad arbennig yma ar gynnydd unwaith eto eleni, a bod ein gwylwyr yn dod aton ni o fore gwyn tan nos, ac o bedwar ban byd.
“Edrychwn ymlaen at weld y ffigyrau’n tyfu dros yr wythnosau i ddod wrth i’r gynulleidfa edrych ‘nôl dros eiliadau mwyaf cofiadwy Sioe orau’r byd ar alw ar wasanaethau amrywiol S4C.”
Yn ystod yr wythnos hefyd, cyflwynodd S4C Gwpan Coffa er cof am y darlledwr a’r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar.
Cafodd y cwpan ei gyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai.