Mae S4C wedi cyflwyno cwpan goffa er cof am y darlledwr a’r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar heddiw (Gorffennaf 19).

Bydd y gwpan yn cael ei chyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai Jones yn Y Sioe Frenhinol, brynhawn heddiw.

Mewn derbyniad yn adeilad S4C ar faes y Sioe, dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyhoeddi S4C, ei bod hi’n “gwbl briodol ein bod ni yn dangos ein diolchgarwch am gyfraniad Dai i ddarlledu, ac i fywyd cefn gwlad drwy gyflwyno’r Cwpan Goffa yma i’r Sioe – y Sioe orau yn y byd’, yng ngeiriau Dai.

“Roedd e wrth ei fodd yn cyflwyno o’r maes, a’i gynhesrwydd naturiol a’i ffraethineb yn gwneud i bawb deimlo’n gwbl gartrefol yn eu cwmni.

“Dyna oedd y gyfrinach i lwyddiant cyfres Cefn Gwlad, fu ar S4C ers y dechrau, ddeugain mlynedd nol, gyda Dai yn feistr wrth y llyw.

“Roedd e’n apelio at yr hen a’r ifanc, pobol y wlad a’r dre’, ac roedd yn ymgorfforiad o’r gorau o gefn gwlad.

“O’r clos ffarm i lwyfan ‘steddfod, o’r Rasys i’r ‘piste’, ac o Siôn a Siân i’r Sioe, mae’r byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo.”

Cofeb barhaol

Yn ystod y derbyniad, fe wnaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gadarnhau eu bwriad i greu teyrnged barhaol i Dai Jones.

Dywedodd John T Davies, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y gymdeithas, mai’r bwriad yw creu cofeb maint llawn i Dai Jones ar gornel Cylch y Gwartheg ger adeilad y Gwartheg Duon Cymreig.

“Y lleoliad hwn oedd pulpud Dai drwy gydol wythnos y Sioe.

“Bydd yn gerflun ac yn gofeb addas i Frenin Bywyd Gwledig Cymru.

“Mae’r gymdeithas heddiw yn lansio safle GoFundMe er mwyn caniatáu i unigolion sydd yn dymuno cyfrannu tuag at gost y cerflun maint byw er cof a chyfraniad Dai Jones Llanilar, gwladgarwr ac un o ddarlledwyr mwyaf Cymru.”