Yn dilyn y tymheredd uchaf erioed ar gofnod yng Nghymru ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 18), mae Dŵr Cymru’n dweud bod y galw am ddŵr wedi cynyddu’n sylweddol – mwy na 1,000 mega litr y diwrnod.

Fe gyrhaeddodd y tymheredd 37.1 gradd selsiws yn Sir y Fflint, ac mae Dŵr Cymru’n dweud bod y galw am ddŵr wedi codi i’r un lefelau â chyfnod y gwres mawr yn 2018.

Mae’r cwmni fel arfer yn trin a chyflenwi tua 850 mega litr o ddŵr bob dydd ar gyfer eu tair miliwn o gwsmeriaid, sy’n gyfwerth â faint o ddŵr fyddai ei angen i lenwi 320 pwll nofio Olympaidd.

Ond mae’r galw ychwanegol, fel yr hyn sydd i’w weld yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ei gwneud hi’n fwy anodd cael digon o ddŵr trwy’r pibellau, ac mae’n golygu bod dŵr yn llifo o argaeau ac afonydd yn gynt – mae hyn yn arbennig oherwydd, rhwng Mawrth ac Ebrill, dim ond hanner y glaw cyfartalog arferol welson ni a 60% o’r cyfanswm arferol yn unig rhwng Mawrth a Mai.

Tra bod cyflenwadau, ar y cyfan, yn ddigonol ledled Cymru, mae yna bryderon am y sefyllfa yn Sir Benfro, sy’n golygu y gall fod angen cymryd camau tua diwedd yr haf os na fydd digon o law wedi cwympo erbyn diwedd mis Awst.

I ateb y galw, fe fu’n rhaid i Dŵr Cymru newid eu dulliau o weithredu er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr i bawb, gan gynnwys gweithio bob awr i sicrhau bod y gwaith o drin dŵr yn diwallu’r angen, a defnyddio tanceri i lenwi systemau dŵr lleol.

Mae’r cwmni hefyd yn mynd i’r afael â thrwsio unrhyw broblemau sy’n codi o ran dŵr yn gollwng – rhwng 500 a 600 bob wythnos.

Cyngor

Mae Dŵr Cymru yn cynghori pobol i gymryd cyfres o gamau i osgoi gwastraffu dŵr yn y cartref a’r ardd:

  • Peidiwch â gadael i ddŵr lifo o’r tap wrth olchi dwylo neu ddannedd
  • Cymerwch gawod yn lle bath
  • Arhoswch i’r peiriant golchi a’r peiriant golchi llestri lenwi cyn eu defnyddio
  • Peidiwch â llenwi’r pwll nofio i’r top, ac ar ôl gorffen ei ddefnyddio, defnyddiwch y dŵr ar blanhigion yn yr ardd
  • Peidiwch â sbrinclo dŵr ar y lawnt i gadw’r lliw – bydd y lliw yn dychwelyd unwaith daw’r glaw eto

‘Dim syndod’

“Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau’r tywydd poeth ac fel cwmni, rydyn ni bob amser yn gweld cynnydd yn y galw am ddŵr pan fo’r haul allan,” meddai Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr.

“Mae penllanw’r galw ond yn para cyfnod byr fel arfer, ond gyda’r tymheredd digynsail hyn, rydyn ni’n gweld cyfnod hirach o gynnydd mewn galw.

“Doedd hi ddim yn syndod ein bod ni wedi gweld y galw’n cyrraedd 1,000 mega litr y dydd ddoe.

“Mae ateb copa’r galw yn naturiol yn cynnig rhai heriau ychwanegol i’r cwmni a bydd pobol wedi gweld ein timau allan yn sicrhau ein bod ni’n cadw’r dŵr yn llifo.

“Tra byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni, byddai’n help i ni pe bai cwsmeriaid yn chwarae eu rhan hefyd drwy osgoi gwastraffu dŵr.

“Er enghraifft, mae sbrinclwyr dŵr yn un o’r defnyddwyr mwyaf o ddŵr yn yr ardd, gan eu bod nhw ar gyfartaledd yn defnyddio 1,000 litr o ddŵr bob awr.

“Mae hyn gyfwerth â’r hyn y byddai teulu arferol yn ei ddefnyddio yn y tŷ dros ddau ddiwrnod.

“Drwy osgoi defnyddio sbrinclwyr, neu fuddsoddi mewn cynhwysydd dŵr i gasglu dŵr glaw, gallai pobol ddefnyddio llawer llai o ddŵr.

“Ffordd arall y gall cwsmeriaid helpu yw trwy adrodd os ydyn nhw’n sylwi dŵr yn gollwng, fel bod modd anfon tîm allan ar unwaith i edrych ar hynny.

“Drwy gydweithio yn y modd yma, gallwn helpu i sicrhau ein bod ni’n cadw’r dŵr yn llifo drwy gydol yr haf.”