Cafodd dyfodol Cymru ei drafod yn ystod cyfarfod cyhoeddus yng Nglyn Ebwy yr wythnos ddiwethaf, gyda Leanne Wood yn llywio’r drafodaeth.

Cafodd y digwyddiad yn yr Institiwt ei gadeirio gan Peredur Owen Griffiths, un o Aelodau’r Senedd dros yr ardal, ac roedd dros 40 o bobol yno.

Roedd y sesiwn yn ymdrin ag amrywiaeth o opsiynau cyfansoddiadol i Gymru eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod, a materion fel sut i wneud gwleidyddiaeth yn fwy tryloyw a sut i gynnwys mwy o bobol ifanc mewn gwleidyddiaeth.

Y digwyddiad hwn oedd yr olaf mewn cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru sydd wedi’u cynnal gan Leanne Wood, cynrychiolydd Plaid Cymru ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

‘Gwych croesawu pobol i ddigwyddiad cyhoeddus’

“Roedd yn wych croesawu pobl i ddigwyddiad cyhoeddus ar ôl ychydig flynyddoedd o ddigwyddiadau ar-lein oherwydd y pandemig,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Yn y gynulleidfa, gwelsom rai wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai pobol a oedd yn mynychu eu cyfarfod gwleidyddol cyntaf.

“Roedd y trafodaethau a gawsom yn yr ystafell yn fywiog ac yn frwdfrydig.

“Mynegwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â Chymru a chreu gwlad decach a mwy ffyniannus.

“Roedd cryn dipyn o dir cyffredin yn yr ystafell lle mae’r system bresennol wedi torri ac nad yw’n gwasanaethu Cymru’n dda iawn.

“Os oes unrhyw un eto i gyflwyno ymateb i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yna byddwn yn eu hannog i ddweud eu dweud ar yr hyn a allai fod yn gomisiwn allweddol ar gyfer ein dyfodol.”