Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir bod cyfnodau o dywydd crasboeth yn cael eu gyrru gan newid hinsawdd, yn ôl un arbenigwr fu’n siarad â golwg360.

Am y tro cyntaf erioed, mae tymheredd o dros 40 gradd selsiws wedi cael ei gofnodi yn y Deyrnas Unedig, a hynny yn ardal Heathrow yn Llundain.

Cafodd y tymheredd uchaf ar gofnod yng Nghymru (37.1 gradd selsiws) ei gofnodi ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 18) ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint.

Os yw allyriadau carbon yn parhau i fod yn uchel neu’n uchel iawn, mae hi’n “debygol iawn” y bydd cyfnodau o dywydd poeth eithafol yn digwydd bob tair blynedd, yn ôl yr Athro Siwan Davies, sy’n darlithio yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.

“Mae astudiaethau gwyddonol yn dangos bod be’ rydyn ni wedi’i weld dros y dyddiau diwethaf, ein bod ni’n gweld tywydd eithafol fel hyn yn digwydd yn llawer mwy aml, yn llawer hirach o ran eu cyfnod nhw, ac yn llawer mwy dwys,” meddai’r arbenigwraig ar newidiadau sydyn yn yr hinsawdd, wrth golwg360.

“Mae gwyddonwyr nawr â thechnegau soffistigedig, modelau newid hinsawdd, sy’n eu galluogi nhw i edrych ar y cofnodion, gweld be’ sy’n anghyffredin, ac yna ceisio archwilio be’ sy’n achosi hynny.

“Mae’r dystiolaeth yn glir bod newid hinsawdd yn achosi i’r tywydd eithafol yma ddigwydd yn llawer mwy aml na beth rydyn ni wedi’i weld yn y gorffennol.”

‘Dau ddewis’

Mae yna ddau ddewis o ran allyriadau carbon ar hyn o bryd, yn ôl Siwan Davies.

“Os ydyn ni’n penderfynu dilyn lle mae ein hallyriadau carbon ni’n mynd i barhau i fod yn uchel neu’n uchel iawn, rydyn ni’n debygol iawn o weld cyfnodau fel hyn yn digwydd, efallai, bob tair blynedd,” meddai.

“Ond os allwn ni gwtogi a dilyn llwybr lle mae ein hallyriadau ni yn isel neu’n isel iawn, hyd yn oed, fyddan ni’n gweld bod tywydd eithafol fel hyn ddim yn digwydd mor aml.

“O ran ceisio lleddfu newid hinsawdd, mae’n rhaid lleihau allyriadau. Ond hefyd, mae’n rhaid i ni addasu i dywydd fel hyn ac mae hynny’n golygu pethau fel gwell isadeiledd sy’n gallu cael ei ddefnyddio mewn tywydd poeth.

“Hefyd, mae’n golygu meddwl am dywydd cynnes a phoeth mewn ardaloedd trefol, ac efallai cynnwys mwy o ardaloedd gwyrdd i gadw’r tymheredd lawr ac efallai lleihau ein dibyniaeth ni ar systemau sy’n oeri adeiladau.

“Mae’n rhaid o ran cynllunio adeiladau, adeiladau trefol yn enwedig oherwydd mae ardaloedd trefol yn mynd yn dwym iawn mewn cyfnodau o dywydd poeth fel hyn.”

‘Codi ymwybyddiaeth’

Mae yna le i raglenni tywydd a newyddion gyfeirio mwy at newid hinsawdd wrth adrodd ar dywydd eithafol, ychwanega Siwan Davies.

“Dw i’n credu bod rhaid codi ymwybyddiaeth pobol am newid hinsawdd,” meddai.

“Dw i’n credu bod gweld y mapiau yna rydyn ni wedi’u gweld dros y dyddiau diwethaf yn arwyddocaol dros ben, y rhai sy’n dangos y mannau coch dros Brydain.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n codi ymwybyddiaeth o be’ sy’n digwydd, a hefyd bod y cyfnodau yma o dywydd crasboeth yn cael eu gyrru gan effaith pobol ar yr hinsawdd. Mae hwnna yn amlwg, a’r dystiolaeth yn glir.

“Ond hefyd, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod pobol ddim yn colli gobaith – eu bod nhw ddim yn meddwl bod yna ddim byd allan nhw ei wneud, eu bod nhw ddim yn anwybyddu opsiynau, a’r ffaith bod yna bethau allwn ni ei wneud o ran lleihau ein hallyriadau carbon.

“Mae’n rhaid i ni geisio dangos bod yna ffordd i weithredu heb fod pobol yn anwybyddu’r broblem.

“Mae hynny’n anodd iawn. Ond dw i yn credu bod digwyddiad fel hyn yn sicrhau bod pobol yn dechrau cymryd sylw, ond [mae angen] gwneud yn siŵr bod y sylw yna’n troi mewn i ryw fath o weithrediad.”

Cynnydd sylweddol yn y galw am ddŵr yn sgil y gwres – a phryderon am Sir Benfro

Ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 18), profodd Cymru’r tymheredd uchaf erioed ar gofnod