Bydd ymgyrchwyr yn cynnal cynhadledd yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn (Gorffennaf 23) i “gydlynu gwrthwynebiad y genedl” i gynlluniau ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn a Thrawsfynydd yng Ngwynedd.

Mae Cymru wedi bod yn destun diddordeb i nifer o brosiectau niwclear posibl ers i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymo i adeiladu cyfres orsafoedd pŵer newydd yn ei strategaeth ynni newydd a gafodd ei chyhoeddi ym mis Ebrill.

Bydd siaradwyr yn y gynhadledd yn amlinellu’r achos yn erbyn y gorsfaoedd pŵer niwclear newydd, gan dynnu sylw at y risgiau ariannol a gweithredol sy’n gysylltiedig â nhw.

Maen nhw hefyd yn bwriadu amlinellu’r achos dros ddatblygu rhagor o ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae ymgyrchwyr a chynghorwyr o bob rhan o Gymru wedi cael eu gwahodd i’r gynhadledd sydd hefyd ar agor i’r cyhoedd.

Bydd cyfraniadau’n cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a’r Saesneg, a bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar y we.

‘Nid yw Cymru eisiau nac angen niwclear’

“Mae’r NFLA yn falch o fod yn rhan o’r gynhadledd bwysig hon, ac mae’n addas ei bod yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon, sef yr ardal fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru, i gydlynu gwrthwynebiad y genedl i gynlluniau Lloegr i osod gorsafoedd pŵer niwclear newydd ar Gymru,” meddai Richard Outram, Ysgrifennydd Awdurdodau Lleol Di-niwclear (NFLA).

“Bydd ein neges yn y gynhadledd hon yn syml – nid yw Cymru eisiau nac angen niwclear.

“Mae niwclear yn rhy gostus, yn rhy araf, ac mae’n cynrychioli ansicrwydd ariannol a risgiau gweithredol i fod yn opsiwn ynni i Gymru.

“Mae hefyd yn afresymegol pan mae Cymru wedi cael ei fendithio gyda digonedd o adnoddau naturiol megis gwynt, solar, tonnau ac afonydd, y gellir diwallu anghenion ynni’r genedl ohonynt yn rhatach, yn gyflymach, yn ogystal â chreu llawer mwy o swyddi, heb etifeddiaeth wenwynig gwastraff niwclear.”