Ffion Dafis sydd wedi dod i’r brig yng nghategori ffuglen Llyfr y Flwyddyn eleni gyda’i nofel Mori, a Grug Muse a’i chyfrol merch y llyn sydd wedi cipio’r wobr farddoniaeth.

Mae’r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, a thlws wedi’i ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae’r ddwy hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl golwg360 a Phrif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos Iau, Gorffennaf 21.

Mori (Y Lolfa) yw nofel gyntaf yr actores a chyflwynydd Ffion Dafis, yn dilyn llwyddiant ei chyfrol gyntaf Syllu ar Walia’.

Mae’r nofel yn dilyn Morfudd a’i hobsesiwn gyda merch sy’n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r berthynas yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol.

O Fangor y daw Ffion Dafis yn wreiddiol, ac mae hi’n enw cyfarwyddwr ym myd y celfyddydau yng Nghymru.

Mae hi’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C.

Ail gyfrol o gerddi Grug Muse yw merch y llyn (Cyhoeddiadau’r Stamp). Yn y ‘bargeinio rhwng meddalwch a chadernid’ y mae’r cerddi hyn yn digwydd.

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle, ac enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013.

Cafodd ei chasgliad cyntaf, Ar Ddisberod, ei gyhoeddi yn 2017, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i Almaeneg, Groeg a Latgaleg (sy’n cael ei siarad yn nwyrain Latfia).

‘Aros yn y cof’

Cafodd y gwobrau Llyfr y Flwyddyn, sy’n cael eu rhedeg gan Lenyddiaeth Cymru, eu beirniadu eleni gan y darlledwr Mirain Iwerydd, y colofnydd a’r cyflwynydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd a’r awdur Siwan Rosser, a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.

Ni fuodd Gwion Hallam yn rhan o’r trafodaethau am y categori ffuglen na’r brif wobr, oherwydd gwrthdaro buddiannau.

“Llongyfarchiadau mawr i Ffion a Grug ar ennill eu categorïau, gyda dwy gyfrol sydd ill dwy yn tynnu adlais arwresau a gwrth-arwresau ein chwedlau o’r dyfnderoedd (yn llythrennol yn achos merch y llyn) ac yn eu gosod yn yr unfed ganrif ar hugain i ddod i aflonyddu ein meddyliau…” meddai Leusa Llewelyn, cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru.

“Dyma gyfrolau sydd am aros yn y cof am amser maith.”

Bydd enillwyr y categorïau Plant a Phobl Ifanc a’r categori Ffeithiol Greadigol yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos fory (nos Fercher, Gorffennaf 20), cyn cyhoeddi’r Prif Enillydd ac enillydd Barn y Bobl nos Iau (Gorffennaf 21).

Bydd yr holl enillwyr Saesneg yn cael eu cyhoeddi nos Wener nesaf (Gorffennaf 29) ar BBC Radio Wales.