Mae’n bosibl bod tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion a oedd wedi’u bwriadu ar gyfer ffoaduriaid a theuluoedd difreintiedig wedi’u hawlio’n “dwyllodrus”, yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith yr ŵyl.
Dywed Elin Jones, sydd hefyd yn Aelod Senedd dros Geredigion lle bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, y bydden nhw’n mynd drwy’r tocynnau i annilysu’r rhai sy’n cael eu hawlio gan y bobol anghywir.
Mae hi’n credu efallai y gall côd QR fod wedi ei rannu gyda phobol nad ydyn nhw’n gymwys i’w derbyn.
“Chi’n gwybod pwy ydych chi bobol, chi’n meddwl bo chi’n glyfar?” meddai ar Facebook.
“Chi ddim, chi’n farus – a hynny ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid – dyna pwy sy’n gymwys am y tocynnau yma.
“Rhag eich cywilydd. Game’s up.”
Ond mae rhai sydd wedi hawlio tocynnau wedi pwyntio allan nad oedd gwybodaeth ynghylch pwy oedd yn gymwys yn ystod y broses.
‘Y system wedi methu’
Ysgrifennodd un, Nest Gwilym, mewn ymateb i’r neges bod ei ffrind wedi derbyn y ddolen i hawlio tocynnau, ond nad oedd unrhyw sôn ar y ddolen pwy oedd yn gymwys.
“Mae tocynnau ar gael ar gyfer grwpiau penodol drwy gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, er mwyn i deuluoedd cymwys ymweld â’r Eisteddfod yn rhad ac am ddim. Ni chodir tâl ac nid oes angen tocyn ar gyfer plentyn o dan 5 oed. Amodau: Uchafswm o 5 tocyn am 1 diwrnod yn unig. Archebion sydd yn gymwys a/neu fwy nag 1 diwrnod yn cael eu canslo,” meddai’r Eisteddfod ar y ddolen.
“A bod yn deg does dim sôn am bobol ddifreintiedig na phobol leol ar y dudalen yma dim ond unrhyw blant cynradd,” meddai Nest Gwilym wrth ymateb.
“Llawer ddim yn ymwybodol felly, os mai i bobol leol oedd y tocynnau dylid fod wedi gofyn am gyfeiriad wrth archebu.”
“Ges innau gôd,” meddai un ymateb i’r neges.
“DIM CLEM eu bod i bobol ddifreintiedig! Hapus iawn i ddychwelyd y tocynnau Sad ola ges i. Ceisio gwneud yn barod.
“Ga i awgrymu bod y system wedi methu, yn hytrach na barnu mai “pobol farus” wnaeth hyn!
“Doedd DIM BYD yn awgrymu i bwy oedd rhain i fod!
“Mae dy neges di braidd yn ymosodol, fetia i bod y mwyafrif wnaeth gais hefyd yn hollol anwybodus o beth oedd y côd yma fel fi!
“Feddylies i mai rhyw ffordd i geisio cael torf fawr ar y diwrnod ola oedd hyn. Hollol rhesymol.
“Mae côd fel hyn yn amlwg wedi mynd yn feiral a’r bwriad gwreiddiol wedi ei golli.
“Beth am holi am y ffeithiau yn gyntaf cyn ceisio codi cywilydd?”
‘Braidd yn annheg cyhuddo pobol’
“Efallai ei fod braidd yn annheg cyhuddo pobol o gymryd mantais a bod yn farus,” meddai Hedd Gwynfor wrth ymateb.
“Roedd Steddfod yr Urdd ar gael am ddim i bawb ac yn aml mae tocynnau ar gael am ddim i deuluoedd lleol o fewn y sir ar gyfer y genedlaethol.
“Mae’n debygol fod y mwyafrif llethol yn syml heb ddeall bwriad y tocynnau y tro hwn, gan feddwl eu bod ar gael i bob teulu lleol.
“Weles i neges ar Y CC [cyfryngau cymdeithasol] dros y penwythnos a doedd dim sôn am wir fwriad y tocynnau.
“Mae’n ymddangos i mi nad oedd neb ar fai dim ond nad oedd y canllawiau yn glir.
“Rhywbeth i wella arno tro nesaf.
“Efallai yr opsiwn orau fyddai canslo’r holl docynnau ac ail gyhoeddi gyda neges glir o’r bwriad. (ON. Fel unedwr ar y maes, mae gen i docyn beth bynnag felly nid oedd yn berthnasol i mi).”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb.