Hawliau Gydol Oes yw Hawliau Dynol

Nid oes terfyn oedran. Dyma’r neges y mae Age Cymru wedi bod yn ei lledaenu ledled Cymru drwy ein hymgyrch hawliau dynol

Nid oes terfyn oedran. Dyma’r neges y mae Age Cymru wedi bod yn ei lledaenu ledled Cymru drwy ein hymgyrch hawliau dynol. Efallai eich bod eisoes wedi gweld ein neges am fagiau fferyllol ar fysiau, ac mewn ysbytai yn eich ardal.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn. Mae pobl hŷn yn cymryd rhan mewn cymdeithas, a dylent ddisgwyl bod eu bod hawliau dynol yn cael eu cynnal. Nid yw hawliau dynol yn gysyniad academaidd na haniaethol, mae’n rhywbeth sy’n cyffwrdd â phob agwedd o’n bywydau.

Effaith hawliau dynol ar fywyd bob dydd

Mae Jeanette Edwards yn ymgyrchydd hawliau dynol gydag Age Cymru. Mae’n rhoi enghraifft wych i ni o fater hawliau dynol sy’n effeithio ar lawer o bobl ledled Cymru.

“Mae llawer o bobl yn flin iawn nad oes unrhyw gyfleusterau cyhoeddus ar gael iddynt, yn enwedig pan mae yna gaffis, marchnadoedd dan do, a pharciau,” meddai Jeanette. “Dyw e ddim yn deg ar bobl. Maen nhw’n atal pobl rhag mynd i’r llefydd yma, felly i mi, dwi’n meddwl bod hynny’n hawl ddynol hefyd.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan “Rydym am greu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at dyfu’n hŷn, a lle mae oedran yn cael ei ddathlu. Ein Gweledigaeth yw Cymru sy’n ystyriol o oedran sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda. Yn rhy aml, mae mynd yn hŷn yn gysylltiedig â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobl hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu.”

“Rwyf bob amser yn mwynhau clywed gan bobl am eu profiadau ac ni ddylai unrhyw un gael ei anwybyddu oherwydd oedran. Mae’r fideo hwn yn ein hatgoffa o ba mor frwdfrydig y gall pobl hŷn fod ynghylch peidio â gadael i oedran effeithio ar eu hawliau a pha mor hanfodol yw pobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru.”

Gwneud i hawliau weithio i bobl hŷn

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu llyfryn sydd wedi’i anelu at bobl hŷn. Bwriad yr astudiaethau achos yw dangos y gall newidiadau bach arwain at ganlyniadau sy’n galluogi pobl hŷn i gael mynediad llawn i’w hawliau dynol.

Mae Gwneud i Hawliau Weithio i Bobl Hŷn yn dangos nad oes rhaid i bobl hŷn roi’r gorau i’w hannibyniaeth oherwydd eu bod yn derbyn gofal. Mae gan bobl hŷn ddewisiadau a gallant barhau i fod yn rhan weithgar o’u cymunedau.

Gallwch ddarllen Gwneud i Hawliau Weithio i Bobl Hŷn ar-lein, neu gallwch ofyn i Age Cymru am gopi papur dwyieithog. E-bostiwch humanrights@agecymru.org.uk neu ffoniwch 0300 303 44 98. Codir tal ar gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae aelodau staff ar gael sydd yn siarad Cymraeg a Saesneg.

Mae Jeanette yn gobeithio y bydd y llyfryn yn cael ei ddosbarthu mor eang â phosibl ac mae’n annog pobl hŷn sydd â phryderon i gysylltu ag Age Cymru.

“Mae Age Cymru yma i chi,” meddai. “Dwi’n eich annog i gysylltu ag Age Cymru a rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n eich poeni chi. Weithiau rwy’n credu ein bod yn dioddef yn dawel, heb wybod hyd yn oed fod yna hawliau dynol.”

Don’t Get Me Started

Mae Jeanette hefyd yn ymddangos yn ein fideo newydd, Don’t Get Me Started. Yn y fideo hwn rydym yn siarad â chwech o bobl hŷn o bob rhan o Gymru am yr hyn y mae hawliau dynol yn ei olygu iddynt. Rydym yn cyffwrdd ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys gwahaniaethu, rhyddid a dewis. Mae Kay o Fro Morgannwg yn sôn am bwysigrwydd cynnwys pobl hŷn yn eu gofal, a’r hawl i gael gwybodaeth briodol yn eich iaith ddewisol.

Bydd aelodau o dîm ymgysylltu Age Cymru yn dangos y fideo mewn grwpiau a digwyddiadau ledled Cymru. Rydym yn gyffrous i fynd allan a siarad â phobl am hawliau! Os hoffech eu gwahodd i grŵp yr ydych yn rhan ohono, cysylltwch â ni humanrights@agecymru.org.uk.

Gallwch gael gwybod am Brosiect Hawliau Dynol Age Cymru, ein gwaith a’n partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar ein gwefan.

Bydd Age Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron trwy’r wythnos. Croeso mawr i chi alw draw i Uned 504 i’n gweld – bydd siaradwr Cymraeg yno bob dydd i sgwrsio gyda chi.

Dweud eich dweud