Mae darparwyr hyfforddiant wedi bod yn cydweithio â sefydliadau eraill i gynnal digwyddiad llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghasnewydd.

Cafodd ffair yrfaoedd ‘Mae’r Dyfodol yn ein Dwylo’ ei threfnu ar gyfer prentisiaethau gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani (RCAC) ac Ysgol Gynradd Maendy, lle cafodd ei chynnal.

Hefyd yn bresennol yn y ffair yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr roedd ACT Training, ITEC Skills and Employment, ISA Training, Gyrfa Cymru, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW) a nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs).

Mae aelodau’r NTfW yn ymroi i gyrraedd nod, sydd wedi’i bennu gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sef cynyddu nifer y bobol o gefndiroedd ethnig leiafrifol sy’n dechrau ac yn cwblhau prentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld tystiolaeth fod mwy o bobol o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cychwyn prentisiaeth erbyn mis Rhagfyr eleni, a bod y cynnydd yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

Mae’r NTfW yn ffederasiwn o dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gyda sicrwydd ansawdd ledled Cymru.

Prentisiaethau

Roedd y digwyddiad yng Nghasnewydd yn cynnwys nifer o weithgareddau Rho Gynnig Arni ISEiW, fel arlwyo, trin gwallt, harddwch, TG, CAN Modurol, ac adeiladu a weldio rhithwir, gan ddangos i bobol ifanc a’u rhieni y gwahanol lwybrau prentisiaethau sydd ar gael iddyn nhw, a sut gallan nhw ennill cyflog wrth ddysgu.

Cafodd prentisiaethau, cyrsiau datblygu gyrfa a chyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) eu hyrwyddo ymhlith pobol ifanc a’u rhieni.

Roedd cyfle hefyd i edrych ar wahanol sgiliau galwedigaethol a allai arwain at lwybr gyrfa.

Daeth y Cynghorydd Deb Davies, Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, i’r ffair a rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau.

‘Cyfle delfrydol i gydweithio’

Dywed Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, fod y ffair yn gyfle delfrydol i gydweithio â phartneriaid eraill i gysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr.

“Roedd yn galonogol gweld y darparwyr prentisiaethau, Gyrfa Cymru a stondinwyr eraill yn cefnogi’r digwyddiad ac yn ymwneud mewn ffordd gadarnhaol â’r cymunedau Sipsiwn a Roma,” meddai.

“Cafwyd ceisiadau i gynnal digwyddiadau tebyg mewn ysgolion eraill, gan brofi pa mor effeithiol ac  angenrheidiol ydyn nhw i hwyluso’r ffordd i wneud prentisiaethau a chodi dyheadau.”

Dywed Viera Matysakova, swyddog prosiectau gyda Chwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani fod “cymunedau o dan bwysau mawr ac, yn aml, yn ansicr o’u pwrpas”.

“Mae’n hanfodol ein bod yn grymuso ac yn ysbrydoli ein hoedolion ifanc a fydd yn creu newid,” meddai.

“Rwy’n credu’n gryf y gall dod â darparwyr gwasanaethau yn nes at y gymuned trwy ddigwyddiadau pwrpasol fel hyn fod o gymorth.

“Mae’n rhoi cyfleoedd i ddarparwyr gwasanaethau gwrdd â’r gymuned mewn amgylchedd cyfarwydd, diogel a diwylliannol-sensitif.

“Mae cynnwys rhieni, brodyr a chwiorydd, teuluoedd estynedig a’r gymuned leol yn helpu i greu ac ymestyn y rhwydwaith cefnogi ac, yn raddol, mae’n dechrau chwalu’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn digwyddiad mor llwyddiannus.  Gobeithio y cawn ddigwyddiadau fel hyn yn rheolaidd o hyn ymlaen.”

‘Ysbrydoli dysgwyr o bob cefndir’

“Ym marn tîm ISEiW, mae cynlluniau fel hyn yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ysbrydoli dysgwyr o bob cefndir, ac yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan,” meddai Paul Evans, cyfarwyddwr prosiectau ISEiW.

“Roedd y digwyddiad yn gyfle i ni ymwneud â thon newydd o ddysgwyr trwy ddefnyddio offer Rho Gynnig Arni, a gobeithio ein bod wedi eu hannog i ystyried llwybrau gyrfa posibl wrth ddangos pa mor gyffrous y gall dysgu galwedigaethol fod.”