Bydd dros 400,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gymwys am daliad o £200 i’w helpu i gynhesu eu tai dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £90m yn eu Cynllun Cymorth Tanwydd i gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar y rhai sy’n ei chael hi’n anodd talu biliau ynni.

Derbyniodd 166,000 o aelwydydd taliad ar gyfer 2021/22, ond mae’r rhaglen wedi cael ei hymestyn i gynnwys aelwydydd sydd ar gredyd treth plant, credyd pensiwn, budd-dal pobol ag anableddau, lwfans gofalwr, budd-dal cyfrannol, a’r rhai sy’n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Cyn hyn, dim ond aelwydydd ar gredyd cynhwysol oedd yn gymwys am y taliad.

Mae’r cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys bron i 200,000 yn fwy o gartrefi gan fod effaith yr argyfwng costau byw presennol yn fwy ar aelwydydd incwm isel, ac er mwyn caniatáu i fwy o aelwydydd sydd ar fudd-daliadau fod yn gymwys.

‘Targedu aelwydydd incwm isel’

Dywed Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod y cynllun yn cael ei ymestyn fel y gall y rhai mwyaf agored i niwed sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd fforddio cadw eu cartrefi’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.

“Rydyn ni’n gwybod fod llawer o aelwydydd yn teimlo’n bryderus am eu biliau ynni cynyddol, ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ymestyn Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i lawer yn fwy o bobol yn rhywfaint o gysur yn y cyfnod heriol hwn,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol ledled Cymru yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, wrth iddyn nhw weld chwyddiant, petrol, eitemau cartref hanfodol a biliau ynni i gyd yn codi.

“Rydyn ni’n targedu aelwydydd incwm isel gyda’r Cynllun Cymorth Tanwydd ac yn ymestyn nifer y rhai sy’n gymwys, gan ein bod yn deall mai misoedd y gaeaf sy’n gallu bod anoddaf, wrth i deuluoedd orfod gwneud y dewis anodd rhwng gwresogi eu cartref a bwyta.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r bobol fwyaf agored i niwed a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â’r cyfnod anodd hwn.”

Fe fydd Jane Hutt yn ymweld â Gweithdy DOVE yn Banwen, Castell-nedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 20) er mwyn cyfarfod â phobol a fydd bellach yn gymwys ar gyfer cymorth y cynllun.

Pryderon gofalwyr

Dywed Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, eu bod nhw’n croesawu’r cyhoeddiad “gan ein bod ni wedi gofyn am i’r meini prawf cymhwysedd gael eu hymestyn i gynnwys Lwfans Gofalwr, a’r hen fudd-daliadau a’r rhai cyfrannol eraill i gefnogi’r nifer fwyaf bosibl o ofalwyr di-dâl”.

“Mae ein hymchwil yn dangos bod gofalwyr eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi’n ariannol, ac mae hyn wedi’i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw,” meddai.

“Mae gofalwyr yn codi pryderon sylweddol am sut y byddan nhw’n ymdopi y gaeaf hwn, ac felly mae popeth y mae modd ei wneud i helpu i leddfu’r pwysau yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

“Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd”

Wrth ymateb, dywedodd Mark Isherwood , llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Gyfiawnder Cymdeithasol: “Rwy’n falch o weld y cyhoeddiad hwn ar ôl i ni gefnogi galwadau i ddiwygio cynllun cymorth tanwydd gaeaf ac ehangu’r cymhwysedd ar gyfer taliadau i gyrraedd mwy o aelwydydd incwm isel sy’n agored i niwed.

“Rwyf hefyd yn hapus bod y newidiadau wedi’u gwneud cyn yr hydref i sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl, a nawr rwyf am weld y Llywodraeth yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cynllun er mwyn cynyddu’r nifer sy’n manteisio arno.

“Mae llywodraethau ledled y byd yn gorfod mynd i’r afael â chwyddiant cynyddol a chostau ynni, ac mae’n bryder gwirioneddol i bobol ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Felly, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad hwn a’r ffaith bod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi defnyddio’r setliad ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf, yn ogystal â chamau eraill gan y Ceidwadwyr i ddelio â chostau byw.”