“Mae angen ffrind ar ffermio” yw neges y Ceidwadwyr Cymreig, wrth iddyn nhw lansio’u gweledigaeth amgen ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru yn ystod Sioe Llanelwedd.
Bydd cynllun Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y blaid, yn diogelu, hybu ac yn cynnal amaethyddiaeth yng Nghymru wrth i’r blaid geisio cydweithio â ffermwyr yn hytrach nag yn eu herbyn.
Mae tair ffrwd i’r cynllun, sef:
- Diogelu: parhau i gynnal y safonau cynhyrchu a lles anifeiliaid uchel sy’n golygu bod cynnyrch amaethyddol Cymru ymhlith y gorau yn y byd, a gofalu am ein ffermwyr a’u hiechyd meddwl gan sicrhau bod ein diwydiant domestig yn ein diogelu rhag newidiadau byd-eang.
- Hybu: gweithio ar draws diwydiannau i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch Cymreig gartref a thramor ac ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Y rôl y gall, ac y mae, amaethyddiaeth yn ei chwarae wrth ddiogelu ein hamgylchedd.
- Cynnal: helpu’r diwydiant i wella ein cynaliadwyedd a’n sicrwydd bwyd er mwyn dygymod ag effeithiau costau tanwydd, porthiant a gwrtaith uchel, a datblygu cyfleoedd ar yr un pryd i newydd-ddyfodiaid ddod i mewn i’r diwydiant.
Yn dilyn sgyrsiau gyda phrif gyrff y diwydiant, byddai Bil Amaethyddiaeth Amgen y Ceidwadwyr Cymreig:
- yn canolbwyntio ar sicrwydd bwyd, gan alluogi Cymru i gynhyrchu mwy o’i bwyd a lleihau ei dibyniaeth ar fewnforion o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn y cyfnod byd-eang heriol a chythryblus hwn;
- yn gynaliadwy ac yn deall y berthynas rhwng y tir a’r rhai sy’n gweithio arno;
- mor syml i’w weinyddu a’i gyflwyno â phosibl, ac yn canolbwyntio ar y rhai hynny sydd wrthi’n gweithio’u tir;
- yn annog buddsoddi mewn ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol, ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymreig; ac
- yn sicrhau bod ffermwyr Cymru yn gallu cystadlu â’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU a’r UE ar faes chwarae gwastad a chyfartal.
Mae’n amser anodd i’r diwydiant amaethyddol sy’n gorfod ymgodymu â pholisi marwaidd y Llywodraeth Lafur ar y diciâu, creu’r Parthau Perygl Nitradau dadleuol ledled Cymru, a pheidio â chynnal uwchgynhadledd bwyd i ymdrin â phrisiau sy’n codi.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw unwaith eto ar Mark Drakeford i efelychu gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn Lloegr a rhoi hanner eu cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol i ffermwyr chwe mis yn gynnar i’w helpu i fynd i’r afael â chostau cynyddol a chadwyni cyflenwi annibynadwy.
‘Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r ffrind’ sydd ei angen ar ffermio
“Rydw i wedi dweud erioed bod angen ffrind ar ffermio, ac rwy’n credu bod y cynllun hwn yn brawf mai’r Ceidwadwyr Cymreig yw’r ffrind hwnnw,” meddai Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
“Rydyn ni eisiau gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni ein nodau cyffredin a fydd yn fuddiol i gymunedau ar draws Cymru.
“Dyna pam mae meddyliau a gofynion sefydliadau amaethyddol wedi bod yn sail i’r gwaith hwn: gan lunio ein polisi ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod ceidwaid y tir wrth galon ein hymagwedd at ddiogelu, hybu, a chynnal yn gynaliadwy ym myd amaethyddiaeth yng Nghymru, er budd cenedlaethau heddiw a rhai’r dyfodol.
“Bydd cyflawni’r amcanion allweddol a esbonnir yn ein Bil Amaethyddiaeth Amgen yn cyfoethogi ein cymunedau gwledig, yn cefnogi ein hamcanion amgylcheddol a natur, yn diogelu ein diwylliant a’n hiaith, ac yn sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn gadarn, yn wydn ac yn barod am heriau’r 21ain ganrif.”