Mae Clwb Pêl-droed Blaenrhondda wedi mynd i’r wal ar ôl 88 mlynedd, o ganlyniad i’r hyn maen nhw’n ei alw’n “ormod o rwystrau i’w goresgyn”.

“O heddiw, bydd y clwb yn peidio â bod” meddai neges ar eu tudalen Twitter ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 19).

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr 88 mlynedd o’i fodolaeth, ond fe fu gormod o rwystrau i’w goresgyn i gael bod yn sicr o gael tîm dros y tymor i ddod yn ogystal â chynnal y clwb yn y dyfodol.

“Gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth ymhlith eraill fod angen cefnogaeth ar glybiau nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Mae aelodau’r pwyllgor yn gostwng drwyddi draw, ac mae’n cymryd cymaint i redeg clwb yn ddyddiol, cyn hyd yn oed denu hyfforddwyr a chwaraewyr i glwb.”

Mae’r datganiad yn mynd yn ei flaen i ddiolch i’r chwaraewyr oedd wedi ymrwymo i’r clwb am y tymor i ddod, “ond heb garfan wedi’i chadarnhau roedd angen gwneud y penderfyniad hwn”.