Mae Plaid Cymru wedi beirniadu diffyg arweinyddiaeth, amcanion a strategaeth Llywodraeth Cymru o ran colli cyfleoedd a ddaw yn sgil tîm pêl-droed Cymru’n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.
Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd chwaraeon Plaid Cymru, cafodd pryderon eu mynegi yng nghyfarfod diwethaf Grŵp Trawsbleidiol Rhyngwladol Cymru am ddiffyg eglurder ynghylch pwy sy’n rhedeg y prosiect, sut mae sefydliadau a busnesau yn cymryd rhan, a oes yna amcanion, a pha fuddsoddiad sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli.
Yn ogystal, mae hi’n tynnu sylw at y cyfeiriad at y gair ‘Great’ mewn ymgyrch yn ymwneud â baner yr Undeb, heb fod sôn am Gymru fel cenedl ynddi’i hun – rhywbeth sydd yn mynd yn groes i ymdrechion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad, meddai.
Dywed y byddai’n “anfaddeuol” pe bai Llywodraeth Cymru’n gadael i gyfleoedd fynd heibio.
Wrth ymateb i’r pryderon, mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yn dweud iddo gael ei benodi i arwain ar y gwaith, ond mae’n cydnabod fod angen gweithredu’n gyflymach dros yr haf, gyda phedwar mis yn unig cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Qatar ar Dachwedd 21.
‘Cyfle clir i arddangos brand Cymru ar lwyfan y byd’
“Mae presenoldeb tîm dynion Cymru yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn cynnig cyfle clir i arddangos brand Cymru ar lwyfan y byd,” meddai Heledd Fychan.
“Dim ond pum mis gawson ni rhwng cymhwyso a’r gêm gyntaf, ond fel y dywedodd Laura McAllister, dylai ein maint bach fel cenedl fod yn ‘ased’ yn y cyd-destun presennol.
“Mae’n bryder mawr, felly, nad oes amcanion wedi’u gosod ar gyfer ‘Tîm Cymru’ – yn wir, newydd ddarganfod ydyn ni pwy sy’n arwain yn Llywodraeth Cymru fis yn ddiweddarach – a dim ond pedwar mis sydd ar ôl cyn i’r tîm gyrraedd Qatar!
“Pryder mwy fyth yw’r cyfeiriad at y ‘cyfle’ mae Llywodraeth Cymru’n ei weld yn yr ymgyrch ‘GREAT’ – ymgyrch baner yr Undeb yn unig sy’n cyfeirio ychydig iawn, os o gwbl, at Gymru fel cenedl ar wahân.
“Pan ddaw i Gwpan y Byd, mae’n hollbwysig nad yw Cymru’n plethu fel rhan o frand y Deyrnas Unedig gyfun.
“Mae pêl-droed yn cynnig y cyfle perffaith i hybu ein brand Cymru unigryw – byddai’n anfaddeuol gadael i’r cyfle hwn lithro trwy ein dwylo.”
Tîm rygbi Prydain Fawr
Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru, yr RFU yn Lloegr a Rygbi’r Alban wedi cadarnhau y bydd y tair gwlad yn uno i greu tîm Prydain Fawr i’r dynion a’r merched yng Nghyfres Saith Bob Ochr y Byd yn 2023.
Mae World Rugby wedi cymeradwyo’r cam, gan greu cyswllt agosach rhwng y gêm saith bob ochr a statws rygbi fel camp Olympaidd.
“Mae mandadu timau Olympaidd o dymor 2023-24 yn golygu bod y tair Undeb yn cydnabod pwysigrwydd trosglwyddo i GB o’r ymgyrch sydd i ddod (2022-23) i gofleidio’r oes newydd gyda GB fel y tîm cynrychioladol yng Nghyfres y Byd wrth symud ymlaen,” meddai datganiad ar wefan Undeb Rygbi Cymru.
Enillodd tîm y dynion y fedal arian yn Rio de Janeiro yn 2016 a’r pedwerydd safle yn Tokyo, tra bod y merched wedi gorffen yn bedwerydd y ddau dro.
Er gwaetha’r cam hwn yn y gêm saith bob ochr, bydd modd i Gymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig gadw eu statws fel timau ar wahân yng Ngemau’r Gymanwlad a Chwpan y Byd os ydyn nhw’n cymhwyso.
Bydd arweinwyr, hyfforddwyr a chwaraewyr tîm Prydain Fawr yn cael eu dewis dros y misoedd i ddod, cyn i Gyfres Saith Bob Ochr y Byd ddechrau yn Hong Kong i’r dynion ar benwythnos Tachwedd 4-6 a Dubai i’r merched ar benwythnos Rhagfyr 2-3, y tro cyntaf i’r merched gystadlu.
‘Cyfle gwirioneddol’ i gystadlu yn enw GB
“Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i chwaraewyr o Gymru gyrraedd y Gemau Olympaidd,” meddai Nigel Walker, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru.
“Byddwn ni’n cynnal rhaglenni saith bob ochr i’r dynion a’r merched yng Nghymru er mwyn datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr, a sicrhau bod yna res o dalent sy’n arwain at y cyfle i wthio am le yn nhîm GB, a chystadlu yn y Gemau Olympaidd yn y pen draw.”