Tarodd Wiaan Mulder ei ail ganred o’r bron wrth i dîm criced Swydd Gaerlŷr roi pwysau ar Forgannwg ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn Grace Road.

Erbyn diwedd y dydd, roedd y Saeson yn 387 am bump.

Sgoriodd Mulder 147 heb fod allan, yn dilyn ei 235 heb fod allan yr wythnos ddiwethaf yn erbyn Sussex, wrth i’r sir geisio’u buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.

Daeth cyfle mawr i Forgannwg waredu Mulder ar 17, pan gafodd ei ollwng gan y wicedwr Chris Cooke, cyn i’r batiwr roi ail gyfle ar 128.

Ar ôl cyfnod hesb i’r bowlwyr agoriadol Michael Hogan a Michael Neser, daeth y wiced gyntaf hollbwysig wrth i Rishi Patel ddarganfod dwylo diogel Sam Northeast yn y slip, a’r batiwr allan am 15.

Ar ôl canred yn erbyn Sussex, daeth hanner canred i Louis Kimber, cyn i Michael Hogan waredu hwnnw gyda daliad i Cooke y tu ôl i’r wiced, ac yna Colin Ackermann oddi ar y belen ganlynol yn yr un modd.

Cyrhaeddodd Lewis Hill ei hanner canred, ac fe aeth yn ei flaen i sgorio 81 cyn i’r troellwr Andrew Salter roi daliad arall i Cooke oddi ar ymyl y bat.

Cipiodd Morgannwg bumed wiced cyn te, wrth i Joey Evison, sydd ar fenthyg o Swydd Nottingham, daro pelen lawn gan y troellwr coes Colin Ingram at Michael Neser ar y ffin ar ochr y goes.

Daeth canred Mulder oddi ar 117 o belenni, cyn i Kiran Carlson ollwng y batiwr yn y cyfar ar 128 oddi ar fowlio Hogan gyda’r bêl newydd.

Cyrhaeddodd Harry Swindells ei hanner canred yn ystod partneriaeth chweched wiced ddi-guro o 137.