Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r troellwr llaw chwith Ajaz Patel o Seland Newydd yn lle’r bowliwr cyflym Michael Neser ar gyfer pedair gêm ola’r Bencampwriaeth.
Bydd Neser, 33 yn dychwelyd i Awstralia i chwarae i Queensland yn y Sheffield Shield.
Mae Patel wedi chwarae mewn 12 o gemau prawf dros ei wlad, gan gipio 43 wiced ar gyfartaledd o 27 a’r llynedd, fe oedd y trydydd chwaraewr yn hanes gemau prawf i gipio deg wiced mewn batiad, yn erbyn India ym Mumbai.
Mae ganddo fe 272 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 74 o gemau, sy’n cynnwys cipio pum wiced mewn batiad 19 o weithiau.
Bydd Patel ar gael ar gyfer holl gemau dosbarth cyntaf Morgannwg ym mis Medi.
Fe fu’n chwarae i Swydd Efrog am gyfnod byr yn 2019.
‘Bachu ar y cyfle’
“Fe wnes i wir fwynhau fy nghyfnod byr mewn criced sirol yn 2019, felly pan ddaeth y cyfle i chwarae eto ym Morgannwg, fe wnes i fachu arno fe,” meddai Ajaz Patel.
“Alla i ddim aros i fynd draw i Gymru a chwrdd â ‘nghyd-chwaraewyr a’r staff cynorthwyol.
“Gobeithio y galla i gyfrannu at ddiweddglo llwyddiannus i’r ymgyrch.”
Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi canu clodydd Michael Neser, gan ddweud ei fod e wedi bod yn “wych” y tymor hwn.
“Ond rydyn ni wrth ein boddau o gael rhywun o safon Ajaz i gymryd ei le,” meddai.
“Mae e’n weithredwr o’r safon uchaf ac wedi profi y gall e ennill gemau, ac fe fydd e’n cynnig amrywiaeth ac opsiynau i’n hymosod, a gobeithio helpu ein hymdrechion i ennill dyrchafiad wrth i ni gyrraedd diwedd y tymor.”