Mae Paul Bodin wedi gadael ei swydd yn rheolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru.

Daw cadarnhad o’i ymadawiad mewn datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd wedi diolch iddo am ei “ymrwymiad”.

Cafodd ei benodi fis Awst 2019, ar ôl sawl blwyddyn yn hyfforddwr ar y tîm dan 19 ac yn hyfforddi’r timau oedran wrth i Gymru gymhwyso ar gyfer Rowndiau Elit UEFA ar sawl achlysur.

Roedd e wrth y llyw gyda’r tîm dan 21 am y tro cyntaf wrth i Brennan Johnson sgorio gôl yn ei gêm gyntaf, sef buddugoliaeth o 1-0 dros Wlad Belg ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Yn rhinwedd ei swyddi, mae Paul Bodin hefyd wedi cydweithio â Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango a sawl un arall sydd wedi cynrychioli tîm dynion Cymru ers hynny.