Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, mae tîm criced Morgannwg yn brwydro i achub yr ornest yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road.

Ar ôl i’r tîm cartref sgorio 584 yn eu batiad cyntaf – eu cyfanswm gorau ar y cae hwn ers 2004 pan sgorion nhw 634 yn erbyn Durham – mae Morgannwg yn 111 am ddwy ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

Tarodd Wiaan Mulder 156, ac roedd cyfraniadau o 91 gan Ben Mike a 64 gan y Cymro a chyn-chwaraewr Morgannwg, Roman Walker.

Ond fe wnaeth maesu gwael Morgannwg gyfrannu at y sgôr hefyd, wrth iddyn nhw ollwng saith daliad yn ystod y batiad.

Cipiodd y troellwr Andrew Salter bedair wiced am 158, a Michael Hogan dair wiced am 88 wrth i’r bowlwyr gael eu rhoi dan bwysau.

Collodd Morgannwg eu hagorwyr, Eddie Byrom a’r capten David Lloyd, ac roedd Sam Northeast wedi cyrraedd ei hanner canred (50) ac roedd Colin Ingram bedwar rhediad yn brin o’r garreg filltir pan ddaeth golau gwael â’r chwarae i ben am y diwrnod.

Mae angen i Forgannwg sgorio 435 i osgoi’r posibilrwydd o orfod canlyn ymlaen.

Manylion y dydd

Dim ond un rhediad sgoriodd Swydd Gaerlŷr ar yr ail fore cyn i Harry Swindells gael ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am 52, wrth i’r bowliwr gipio’i drydedd wiced gan ddod â phartneriaeth o 138 rhwng Mulder a Swindells i ben.

Wrth i Ben Mike ddod i’r llain i ymosod, doedd hi ddim yn hir cyn i Michael Neser waredu Mulder yn fuan ar ôl iddo gyrraedd 150, wrth i’r batiwr gael ei fowlio.

Ar ôl cael ei ollwng ar 43, 56 a 70, fe redodd e allan o lwc yn y pen draw pan gafodd ei ddal gan Neser oddi ar fowlio Salter.

Adeiladodd y Saeson gyfres o bartneriaethau wedyn, cyn i Roman Walker ddod i’r llain am y tro cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf, flwyddyn ar ôl gadael Morgannwg.

Cyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 79 o belenni, a chafodd ei ollwng gan Billy Root ar 52 cyn i Chris Wright gael ei ollwng gan Colin Ingram oddi ar ei fowlio’i hun wrth i’r pâr olaf ychwanegu 45 at y sgôr.

Batiad cyntaf Morgannwg

Goroesodd David Lloyd belen gynta’r batiad wrth gael ei ddal yn y slip gan Louis Kimber oddi ar belen anghyfreithlon gan Chris Wright.

Ond fe gollodd ei wiced 18 pelen yn ddiweddarach wrth i Walker ddathlu ei wiced gyntaf mewn gêm ddosbarth cyntaf, gyda’r un maeswr yn cipio’i ddaliad yn y pen draw.

Cafodd Eddie Byrom ei ddal yn y slip gan Rishi Patel oddi ar fowlio Wright i adael Morgannwg yn naw am ddwy yn y seithfed pelawd, cyn i Ingram a Northeast ychwanegu 102 yn ddi-guro am y drydedd wiced.

‘Tynnu coes’

“Roedd gen i syniad pan aeth y garfan allan y byddwn i’n chwarae fy ngêm gyntaf yn y gêm hon, ond dim ond bore ddoe roeddwn i’n gwybod yn sicr,” meddai Roman Walker, sy’n hanu o Wrecsam.

“Mae hi wedi bod braidd yn rhwystredig gorfod aros am fy ngêm gyntaf yn y gystadleuaeth hon, ond tra fy mod i wedi bod yn curo ar y drws, dw i ddim wedi bod yn ei fwrw fo i lawr.

“Roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi ennill yr hawl i chwarae mewn carfan sydd wedi’i hen sefydlu, ac mi fydda i’n cymryd tipyn o hyder o sut mae hi wedi mynd yn y gêm hon.

“Ddaru fi fatio ar adeg pan oedd y job wedi’i gwneud gan yr hogia’ cyn fi, felly roedd o wedi’i sefydlu’n dda a’r unig gyfarwyddiadau gawson ni oedd batio cyhyd ag y medrwch chi, cadwch sgorio rhediadau, cadwch i gylchdroi, a byddai beth bynnag fedren ni ei gael yn fonws.

“Roedd o’n gompliment cael y bêl newydd. Roedd y bêl yn gwyro drwy’r dydd ac mi fysa hi’n dda tasai’r amodau’n debyg fory.

“Roedd ychydig o dynnu coes gan eu hogia’ nhw, ond dim gormod. Dw i heb weld llawer ohonyn nhw ers i mi adael y llynedd.”

‘Diwrnod anodd yn y maes’

“Roedd e’n ddiwrnod anodd yn y maes i ni, ddoe a heddiw, ond roedd y bois yn adeiladu partneriaeth tua’r diwedd yn ffordd braf o’i orffen e,” meddai Andrew Salter, troellwr Morgannwg.

“Fe wnes i fowlio llawer o belawdau, ac ro’n i’n eitha’ hapus i wneud hynny a chael pelawdau y tu ôl i fi, er o ran y tîm, lleia’ dw i’n bowlio yn y batiad cyntaf, fwya’ rydyn ni’n gwneud yn dda.

“Mae’n edrych fel llain dda, ac yn teimlo felly ran fwya’ fy nghyfnod i.

“Roedd ambell [belen] yn adlamu rywfaint, felly bydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’n datblygu.

“Aeth ambell gyfle [am ddaliad] i lawr.

“Mae elfen o gyrff a meddyliau blinedig pan ydych chi wedi bod allan yno cyhyd, a gall fod ychydig yn ddiflas pan ydych chi’n chwilio am rywbeth, am hanner cyfle, ond fel uned mae ein safonau wedi bod yn wych trwy gydol y tymor ac rydyn ni wedi cymryd ein cyfleoedd, felly croesi bysedd y gallwn ni ddychwelyd i’r safonau hynny.

“Tua diwedd y dydd, roedd yr amodau’n eitha’ braf ar gyfer batio, a’r peth allweddol fory fydd cymhwyso’n hunain, cael ein hunain i mewn a bod yn eofn a chael ambell sgôr mawr.

“Mae’n mynd i gymryd ymdrech lew gennym i gael sgôr mawr.”