Mae tân wedi dinistrio holl offer Clwb Pêl-droed Cefn Fforest, sy’n chwarae yng nghynghreiriau Ngwent.

Aeth storfa’r clwb ar dân neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 21), ac maen nhw’n dweud nad oes ganddyn nhw bellach “yr un bêl-droed” yn eu meddiant.

Maen nhw’n dweud wrth bobol y bydden nhw’n “ddiolchgar am unrhyw hen offer maen nhw’n cael gwared arno”.

Mae Clwb Pêl-droed Dyffryn Gwent hefyd wedi rhannu tudalen codi arian sydd wedi’i sefydlu i helpu’r clwb yn ôl ar ei draed.

“Gadewch i ni ddangos pa mor gryf yw’r gymuned bêl-droed hon, a’u helpu nhw,” meddai neges ar eu tudalen Twitter.