Mae Sam Northeast un rhediad i ffwrdd o’r sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed yn hanes Clwb Criced Morgannwg, ar ôl sgorio 308 heb fod allan ar drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road.
Fe fu’n rhan o record arall, serch hynny, wrth adeiladu partneriaeth o 306 gyda Colin Ingram, a sgoriodd 139, gan drechu’r record am y drydedd wiced yn erbyn y sir, sef 242 gan Steve James a Matthew Maynard yn 1995.
Ond roedden nhw’n brin o record y ddau Gymro Cymraeg, Willie Jones ac Emrys Davies, oedd wedi adeiladu partneriaeth o 313 yn erbyn Essex yn Brentwood yn 1948, y tymor pan wnaeth Morgannwg ennill Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf.
Steve James hefyd sydd â’r record o 309 heb fod allan, sef y sgôr gorau i Forgannwg mewn criced dosbarth cyntaf, a hynny yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos yn 2000.
Northeast, felly, yw’r ail fatiwr yn hanes y sir i gyrraedd sgôr o fwy na 300, ac fe wnaeth e helpu ei dîm i gyrraedd 563 am bump, wrth ymateb i gyfanswm batiad cynta’r Saeson o 584.
Daeth ei sgôr gorau blaenorol o 191 i Gaint yn erbyn Swydd Derby yn 2016.
Ar hyn o bryd, mae e wrth y llain gyda Chris Cooke (71) ac mae eu partneriaeth chweched wiced yn werth 229 hyd yn hyn.
Mae e bellach wedi sgorio dros 1,000 o rediadau y tymor hwn.
Colli cyfleoedd
Cyrhaeddodd Northeast ac Ingram, ill dau, eu canred yn ystod y bore, ar ôl i’r ddau gael eu gollwng gan Colin Ackermann yn y slip.
Gallai Northeast fod wedi bod allan ar 96, ond fe gafodd ei ollwng yn y slip, tra bod Cooke wedi’i ollwng ddwywaith, er i Chris Wright gipio tair wiced am 74 i’r tîm cartref wrth geisio sicrhau bod y fuddugoliaeth o fewn cyrraedd y Saeson mewn gornest sy’n debygol o orffen yn gyfartal.
Ar 77, tarodd Ingram ergyd at Ackermann oddi ar fowlio Wiaan Mulder ond aeth y bêl i’r llawr rhwng coesau’r maeswr yn y slip, tra gallai Northeast fod wedi bod allan oddi ar y belen i gyrraedd ei ganred, wrth daro unfed ergyd ar bymtheg i’r ffin, wrth i’r bêl wibio heibio ysgwydd Ackermann oddi ar fowlio’r troellwr Callum Parkinson.
Daeth canred Ingram oddi ar 75 o belenni wrth daro’i bewaredd ergyd ar ddeg i’r ffin, wrth i Forgannwg gyrraedd 242 am ddwy erbyn amser cinio.
Bowliodd Parkinson ac Ackermann heb lwyddiant ar ddechrau’r prynhawn, ond dychwelodd Mulder i waredu Ingram, wrth i hwnnw ergydio at y wicedwr Harry Swindells oddi ar ymyl ei fat.
Cymerodd y Saeson y bêl newydd bron ar unwaith, ac fe gipiodd Wright ddwy wiced mewn dwy belen, wrth i Kiran Carlson gael ei fowlio oddi ar ymyl ei fat, tra bod Billy Root wedi canfod Ackermann yn y slip.
Ar ôl cipio tair wiced am 29 mewn deg pelawd, roedd y Saeson yn chwilio am ragor o wicedi gyda Morgannwg 101 o rediadau i ffwrdd o osgoi’r sgôr canlyn ymlaen o hyd, ond cafodd Cooke ei ollwng gan Swindells gyda Morgannwg yn gorffen sesiwn y prynhawn ar 341 am bump.
Cafodd Cooke ei ollwng am yr eildro, gan Louis Kimber yn y slip, ar 15 oddi ar fowlio Mulder.
Cipiodd Morgannwg bwynt batio arall cyn i Northeast gyrraedd ei ganred dwbl â’i ail ergyd ar hugain i’r ffin, ac fe lwyddodd Morgannwg i fynd heibio’r sgôr canlyn ymlaen, 435, wrth i bartneriaeth Northeast a Cooke fyn dy tu hwnt i’r cant.
Cymerodd Northeast 74 o belenni’n unig i fynd o 200 i 300, ac fe gyrhaeddodd e’r nod gydag ergyd rhif 37 allan o 38 i’r ffin.