Mae tîm criced Morgannwg yn anelu i godi i’r safleoedd dyrchafiad, wrth iddyn nhw deithio i Grace Road i herio Swydd Gaerlŷr yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 20).

Mae sawl newid i’r garfan oedd wedi wynebu Swydd Nottingham yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, gyda’r bowliwr cyflym James Weighell yn dychwelyd, tra bod y wicedwr Tom Cullen a’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya allan o’r garfan.

Mae Morgannwg yn y trydydd safle yn y tabl, un pwynt islaw’r ail safle hollbwysig fyddai’n sicrhau dyrchafiad i’r adran gyntaf, tra bod Swydd Gaerlŷr ar waelod y tabl er iddyn nhw dorri record yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf drwy sgorio 756 am bedair cyn cau eu batiad.

“Rydan ni’n mynd i mewn i bob gêm yn ceisio ennill, a byddwn ni’n gwneud union yr un fath yr wythnos hon,” meddai’r capten David Lloyd.

“Mae pob tîm yn y gynghrair hon yn dda, felly bydd rhaid i ni fynd yno ar dop ein gêm.

“Mae angen i ni berfformio’r ffordd rydan ni’n gwybod fedrwn ni, a gobeithio dod yn ôl efo’r fuddugoliaeth.”

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn Grace Road ers 2018, pan gollon nhw o dri rhediad wrth gwrso 250 i ennill.

Roedden nhw’n 139 am wyth ar un adeg, cyn i Marchant de Lange ddod i’r llain a wynebu 45 o belenni i fynd â’i dîm mor agos at y fuddugoliaeth.

Colli oedd hanes Morgannwg unwaith eto yn 2016, er eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa gref cyn colli chwe wiced am ddeg rhediad mewn 26 o belenni.

Gemau cyfartal gawson nhw yn 2015 ac yn 2017, pan darodd Will Bragg a Jacques Rudolph ganred yr un.

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill yng Nghaerlŷr ers 2010, wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 71 gyda James Harris a David Harrison yn cipio pedair wiced yr un, cyn i Mark Cosgrove a Gareth Rees sgorio 198 mewn 34 o belawdau rhyngddyn nhw i sicrhau buddugoliaeth o ddeg wiced.

Carfan Swydd Gaerlŷr: C Ackermann, J Evison, B Hendricks, L Hill, L Kimber, B Mike, W Mulder, C Parkinson (capten), R Patel, S Steel, H Swindells, R Walker, C Wright

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), E Byrom, K Carlson, C Cooke, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Neser, S Northeast, B Root, A Salter, T van der Gugten, J Weighell

Sgorfwrdd