Mae’r Baralympwraig Olivia Breen yn benderfynol o gyrraedd y podiwm pan fydd hi’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, sy’n dechrau yn Birmingham ymhen llai na phythefnos.
Enillodd yr athletwraig 25 oed y fedal aur yn y naid hir a’r fedal efydd yn y 100m ar Arfordir Aur Awstralia bedair blynedd yn ôl.
Mae hi hefyd wedi ennill dwy fedal aur y byd ar ôl degawd hynod lwyddiannus.
Bydd mwy na 200 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yn y Gemau.
Yn enedigol o Guildford yn Surrey ond yn gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd cysylltiadau teuluol, mae Olivia Breen yn dweud ei bod hi’n fwy hyderus nag erioed o’r blaen cyn cystadleuaeth fawr.
“Y llynedd, roedd gen i anaf yn mynd i mewn i Tokyo, anaf i’r ysgwydd, a chael a chael oedd hi braidd,” meddai, wrth siarad mewn digwyddiad yn Birmingham i bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
“Eleni, dw i wastad wedi bod yn ymarfer yn galed, ond dw i wedi ymarfer yn eithriadol o galed, ac mae fy nghorff a’m meddwl yn dda.
“Felly ydw, dw i jyst yn teimlo’n dda iawn, a dw i’n teimlo’r wefr cyn Birmingham.
“Roedd y cystadlaethau cynnar wedi achosi ychydig o nerfau, ond roedd hi’n dda cael bwrw iddi, a dw i’n gwybod fy mod i’n neidio ac yn rhedeg yn dda, felly gobeithio fydd popeth yn mynd yn iawn ar y diwrnod.
“Dw i’n sicr yn meddwl bod yna berfformiad gorau yno i fi, felly croesi bysedd.”
Rhaglen y Loteri Genedlaethol
Mae Olivia Breen yn un o fwy na 1,100 o athletwyr elit sy’n rhan o raglen fyd-eang y Loteri Genedlaethol sy’n eu galluogi nhw i ymarfer yn llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa ar dechnoleg, gwyddoniaeth a chefnogaeth feddygol o’r radd flaenaf.
Bydd hi’n gobeithio ennill y fedal aur yn y 100m T38, ond fydd hi ddim yn cystadlu yn y naid hir y tro hwn.
Daeth ei medal Baralympaidd gyntaf yn Llundain yn 2012, wrth iddi gystadlu fel aelod o dîm y ras gyfnewid 4x100m T35-38 a gorffen yn drydydd.
Cipiodd hi’r fedal efydd wyth mlynedd yn ddiweddarach, y tro hwn yn y naid hir T38.
Mae hi bellach yn gobeithio ysbrydoli athletwyr eraill i lwyddo.
“Mae’n anodd paratoi i amddiffyn medal,” meddai.
“Mae angen i chi fod yn hunanol mewn ffordd oherwydd, yn amlwg, mae’n rhaid i chi feddwl amdanoch chi eich hun gan mai dyma eich unig gyfle.
“Ond ydw, dw i wedi cyffroi’n fawr.
“Roedd 2018 yn anhygoel, felly dw i wir wedi cyffroi ar gyfer yr un yma nawr.”
Mae hi’n teimlo bod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn allweddol yn ei datblygiad yn y byd athletau.
“Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn anhygoel,” meddai.
“Dw i wedi cael fy ariannu ganddyn nhw ers bron i ddeng mlynedd nawr, ac maen nhw wir wedi helpu fy ngyrfa, boed hynny gyda maeth, cryfder a chyflyru, fy hyfforddwr, dw i wir yn lwcus, a fyddwn i ddim lle’r ydw i nawr nac wedi cyflawni’r hyn dw i wedi’i gyflawni heb eu cefnogaeth nhw.
“Hynny yw, dywedais i ddeng mlynedd ac ro’n i’n teimlo fatha, ‘Waw, mae hynny’n amser hir’.
“Mae’n mynd yn gyflym, ond dw i wir yn ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud.
“Dw i eisiau diolch yn fawr iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”