Mae Clwb Rygbi Caerdydd ymysg nifer sydd wedi talu teyrnged i Gary Samuel, cyn-fewnwr a hyfforddwr y clwb.

Fe fu farw yn 78 oed yn dilyn salwch byr.

Mae’r clwb wedi dweud eu bod nhw’n “drist iawn” wrth glywed y newyddion.

Cynrychiolodd Gary Samuel dîm glas a du’r brifddinas am ddegawd rhwng 1965 a 1976, gan wneud 112 o ymddangosiadau tîm cyntaf a sgorio 13 cais.

Roedd y mewnwr hefyd yn aelod o daith dramor gyntaf y clwb i Dde Affrica yn 1967 ac yn ddiweddarach, fe ymddangosodd ar daith i Rhodesia yn 1972.

Aeth y brodor o Ddyffryn Aman yn ei flaen i gynrychioli Clwb Rygbi Pontypridd ac, ar ôl ymddeol, dychwelodd i Barc yr Arfau i hyfforddi Caerdydd i fuddugoliaeth yng Nghwpan Schweppes, ynghyd â Roger Beard.

“Mae meddyliau pawb yn Rygbi Caerdydd gyda gwraig Gary, Bethan, a’i mab, Rhodri ar yr adeg anodd hon,” meddai’r clwb mewn datganiad.

Brodor o Ddyffryn Aman

“Yn frodor o Ddyffryn Aman, ymunodd Gary, mewnwr, â’r clwb o Gaerdydd gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i Ponty ym mis Tachwedd 1974,” meddai teyrnged gan Glwb Rygbi Pontypridd.

“Aeth yn ei flaen i wneud 50 ymddangosiad gan sgorio saith cais, un trosiad a dwy gôl adlam yn ystod ei dri thymor gyda’r clwb.

“Hoffai pawb yng Nghlwb Rygbi Pontypridd gydymdeimlo’n ddiffuant â gwraig Gary, Bethan, ei fab Rhodri a gweddill ei deulu a’i ffrindiau ar yr amser hynod drist hwn.”

‘Mor barod i rannu ei ddoethineb’

Mae rhai o ddarlledwyr chwaraeon Cymru wedi bod yn talu teyrnged ar Twitter.