Mae angen mynd yn bellach er mwyn diogelu chwaraewyr rygbi rhag ergydion i’r pen, yn ôl y sylwebydd Cennydd Davies.
Daw ei sylwadau wedi i gyn-gapten Cymru, Ryan Jones, ddatgelu ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar.
Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd y gŵr 41 oed ei fod wedi cael diagnosis o Enseffalopathi Trawmatig Cronig fis Rhagfyr y llynedd.
Mae Ryan Jones wedi ymuno â her gyfreithiol yn erbyn cyrff rheoli’r gêm a gafodd ei dechrau gan Alix Popham, cyn-chwaraewr Cymru, a saith o gyn-chwaraewyr eraill y llynedd.
“Mae’n newyddion dirdynnol iawn, mae’n drist iawn wrth gwrs, rhywun 41 oed â thri o blant yn darganfod ei fod e’n dioddef o’r cyflwr yma, wedi dioddef ers mis Rhagfyr, a’r meddygon yn sôn mai dyma’r achos gwaethaf maen nhw wedi’i weld,” meddai Cennydd Davies wrth golwg360.
“Mae e’n frawychus, mae e’n arswydus bod rhywun iach, rhywun fuodd yn gapten ar ei wlad, rhywun enillodd y Gamp Lawn ar dri achlysur, 75 o gapiau, wedi canfod y newyddion yma.
“Yn anffodus, megis dechrau, o bosib, yw hyn. Rydyn ni eisoes wedi gweld ffigyrau fel Alix Popham wedi dod ma’s yn gyhoeddus ac wedi penderfynu dwyn achos yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.
“Cyn-fachwr Lloegr, Steve Thompson, yn yr un modd – fe yn cyfaddef nad oedd e hyd yn oed yn cofio ennill Cwpan y Byd gyda Lloegr.
“Mae’n drist ofnadwy bod hyn yn digwydd.”
‘Newid meddylfryd’
Er bod gwelliannau wedi digwydd i’r gêm o safbwynt cyfergyd ac anafiadau i’r pen, mae angen newid y meddylfryd o ran sut mae’r gêm yn cael ei chwarae, yn ôl Cennydd Davies.
“Mae hi’n gêm gorfforol, mae hi’n gêm galed, mae yna elfen o risg fel y mae yna mewn campau eraill,” meddai.
“Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r awdurdodau fynd i’r afael â’r broblem yma, mae’n rhaid iddyn nhw ymdrin â’r broblem yma.
“Mae yna welliannau wedi digwydd eisoes o safbwynt cyfergyd ac anafiadau i’r pen. Mae’r rheolau lawer llymach bellach, mae yna gosbau am daclo a chwarae brwnt, chwarae esgeulus.
“Mae’r cyfarwyddiadau’n amlwg a chlir gan World Rugby, ond mae angen mynd yn bellach, am wn i.
“Mae chwaraewyr i fod i gael eu diogelu, mae yna ddeng munud angenrheidiol i wneud yn siŵr bod chwaraewyr yn iawn ac mae yna brofion penodol yn ymwneud â chyfergyd.
“Mae yna newidiadau chwyldroadol wedi digwydd, ond am wn i, mae angen gwneud mwy o ran addysgu, ac addysgu plant, ac mae angen i’r meddylfryd o ran sut mae’r gêm yn cael ei chwarae newid yn gynnar iawn yn ystod cyfnod chwaraeon. Mae hynny’n dechrau yn ifanc.
“Yn anffodus, fyddai chwaraewyr fel Ryan Jones ac Alix Popham wedi dechrau eu gyrfaoedd mewn cyfnodau hollol wahanol pan nad oedd y wybodaeth mor eang, efallai, ynglŷn ag ergydion i’r pen a dementia.
“Mae yna waith i’w wneud oherwydd y gofid yw y bydd achosion eraill yn datblygu.
“Ond mae’n dechrau ar lefel gymunedol ar lawr gwlad, ac os yw’r meddylfryd a’r diwylliant yn newid yn fan honno, mae gobaith wedyn o fynd i’r afael â’r broblem ar lefel broffesiynol ac ar lefel uwch.”
Ymchwil a gweithredu pellach
Mae angen i’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan yr awdurdodau barhau, ychwanega Cennydd Davies.
“Mae yna ymchwil cyson yn cael ei wneud gan yr awdurdodau, ac mae angen i hynny barhau,” meddai.
“O bosib bod yna gysylltiad rhwng eilyddio tactegol – daeth eilyddio tactegol mewn yn y 90au pan nad oedd yna gymaint o bwyslais ar rym corfforol – ond mae gymaint fwy o bwyslais nawr ar wella maint corfforol yn y gamp ag oedd yna o’r blaen.
“Oes angen ystyried mynd yn ôl i eilyddio ar gyfer anafiadau yn unig?
“Allwch chi deilwra chwaraewr yn nawr ar gyfer 50 munud o rygbi, ac mi all hyfforddwr ddweud wrth y chwaraewr hwnnw ‘Ti ond yn mynd i chwarae 50 munud o rygbi, mae’n rhaid i ti roi popeth yn y 50 munud hwnnw’. Neu i’r gwrthwyneb, ‘Dw i’n mynd i ddod â ti arnodd am hanner awr’.
“Efallai mai bryd hynny mae’r perygl, pan mae chwaraewr 20 stôn sy’n gallu rhedeg can medr mewn deuddeg eiliad yn gallu rhoi popeth mewn amser byr. Pe bai’r chwaraewr hwnnw’n gorfod goroesi am 80 munud, mae hi’n bosib na fyddai’r anafiadau’n digwydd.
“Rhywbeth bychan yw hynny, ond mae’n rhywbeth arall a all gael ei ystyried.
“Mae yna bethau i’w gwneud, ond dw i’n credu bod addysgu’n bwysig.
“Mae’r rheolau wedi’u haddasu, ond mae’n mynd i gymryd amser i’r meddylfryd newid.”