Ar ôl dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe dros yr wythnosau diwethaf, mae Joe Allen yn edrych ymlaen at y misoedd mawr sydd i ddod cyn Cwpan y Byd gyda Chymru yn Qatar, ond hefyd yn llygadu carreg filltir go fawr gyda’r clwb lle dechreuodd ei yrfa.
Chwaraeodd y Cymro Cymraeg yng nghanol cae’r Elyrch 36 o weithiau yn nhymor cynta’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011-12, gan sgorio pedair gôl, cyn ymuno â’i reolwr Brendan Rodgers ar ôl i’r Gwyddel adael am Lerpwl ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Erbyn iddo fe adael, roedd ganddo fe saith gôl mewn 150 o gemau ar draws yr holl gystadlaethau.
Treuliodd e bedwar tymor yn Anfield gan sgorio saith gôl arall mewn 132 o gemau, cyn cael dau dymor yn yr Uwch Gynghrair a phedwar yn y Bencampwriaeth gyda Stoke cyn penderfynu gadael dros yr haf ar ddiwedd ei gytundeb.
Ar ôl gwyliau ym Majorca, mae Allen yn ôl ar y cae ymarfer yn Fairwood yn ysu i fwrw iddi unwaith eto.
Doedd hi ddim yn gyfrinach pan adawodd Allen Abertawe ei fod e’n dyheu am ddychwelyd rywbryd cyn diwedd ei yrfa.
Anelu am yr Uwch Gynghrair eto – a gwisgo crys arbennig iawn
Ac yntau bellach yn 32 oed, mae Joe Allen yn gobeithio dychwelyd i’r Uwch Gynghrair gyda chlwb ei blentyndod.
Pe bai’n llwyddo i wneud hynny, ei gêm gynta’n ôl yn yr adran uchaf fyddai ei 200fed yn yr adran honno, yn dilyn cyfnodau gydag Abertawe, Lerpwl a Stoke.
Ac fe fydd e’n gwisgo crys go arbennig – crys rhif saith sydd wedi’i wisgo yn y gorffennol gan Leon Britton ac Alan Curtis a rhif fu ar gefn ei grys coch i Gymru. Ond a fydd e’n rif lwcus iddo?
“Dyna’r targed, wrth gwrs,” meddai wrth golwg am y nod o geisio dychwelyd i’r Uwch Gynghrair ar ôl pum tymor yn y Bencampwriaeth.
“Yr un targed â bron bob clwb yn y gynghrair. Mae’n gystadleuol, ond dw i wedi cael digon o brofiad o fod yn chwarae yn y Bencampwriaeth ac o beth dw i wedi’i weld hyd yn hyn, dw i’n hyderus. Mae digon gyda ni i fod lan tuag at y top yn herio am y llefydd yna.”
Sut mae’n teimlo o gael bod yn ôl gyda’r clwb lle dechreuodd ei yrfa, tybed, a beth yw ei argraffiadau o’r clwb ar ôl dychwelyd ddegawd yn ddiweddarach?
Wrth ateb yr ail gwestiwn, mae’n mynnu mai ffordd Russell Martin o chwarae’r gêm fyddai ei ddull yntau hefyd pe bai’n mentro i’r byd hyfforddi.
“Gwych i fod ’nôl. Roedd [llofnodi] y cytundeb yn cael y job done. Mae wedi bod yn braf bod ’nôl yn y clwb lle mae tipyn o hanes gyda fi. Mae pethau’n mynd yn wych, dwi’n meddwl.
“Mae gymaint o chwaraewyr arbennig o dda yma.
“Maen nhw hefyd wedi cael tymor, neu’r mwyafrif o’r chwaraewyr wedi cael tymor o weithio’r ffordd yma gyda’r rheolwr, felly dw i’n siŵr fydd hwnna’n help enfawr.
“Ti’n edrych ar dalent a sgiliau chwaraewyr fel Matt Grimes, Joel Piroe, Kyle Naughton… ac wrth gwrs, ry’n ni wedi arwyddo pobol fel Harry Darling gafodd dymor gwych tymor diwethaf, felly mae llawer o bethau i deimlo’n bositif amdano.
“Dw i’n gobeithio fydd e’n dymor i’w gofio.”
Darllenwch y cyfweliad llawn yn rhifyn nesaf golwg yr wythnos hon.