Mae gan dîm rygbi Cymru “gyfle gwych” i ennill y gyfres yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16), medd Dan Biggar.
Daw hyn yn dilyn cadarnhad y bydd capten a maswr Cymru yn holliach ar gyfer y prawf tyngedfennol olaf yn Cape Town.
Un newid yn unig sydd yn y tîm, gyda Josh Adams yn dychwelyd i’r asgell yn absenoldeb Alex Cuthbert, sydd wedi’i anafu.
Bydd enillydd y trydydd prawf yn cipio’r gyfres, ar ôl i Dde Affrica ennill 32-29 yn Pretoria, cyn i Gymru ennill yr ail brawf 13-12 yn Bloemfontein.
Cyn y fuddugoliaeth hanesyddol honno, doedd y Cymry erioed wedi trechu’r Bociaid ar eu tomen eu hunain.
Mae cael Dan Biggar yn holliach ar gyfer y gêm brawf olaf yn hwb i Gymru, ar ôl iddo wella o anaf i’w ysgwydd a ddioddefodd yn ystod yr ail brawf, pan gamodd yr eilydd Gareth Anscombe oddi ar y faint i gicio’r triphwynt allweddol i ennill y gêm.
Roedd pryderon hefyd am benelin Dillon Lewis – sydd hefyd yn holliach – yn enwedig yn sgil diffyg chwaraewyr rheng flaen yn absenoldeb Tomas Francis, Leon Brown a Samson Lee.
Bydd y gic gyntaf am 4:05 y prynhawn, ac mae modd ei gwylio hi’n fyw ar Sky Sports, tra bydd uchafbwyntiau’r gêm ar S4C am naw o’r gloch y nos.
“Cyfle gwych”
“Mae’n gyfle gwych ddydd Sadwrn i ni ennill cyfres yma,” meddai Dan Biggar.
“Rwy’n credu pe bydden ni wedi dweud hynny bedair neu bum wythnos yn ôl cyn i ni hedfan yma, mae’n debyg y byddai pawb wedi chwerthin ar ein pennau.
“Yn bendant, nid yw hon un i’w golli, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr ornest.
“Rydym wedi rhoi llawer o ymdrech i mewn i’r daith hon fel grŵp o ran faint o hyfforddi rydym wedi’i wneud.
“Rydym wedi gweithio’n hynod o galed, felly byddai’n wych ennill dydd Sadwrn.
“Rydyn ni’n gwybod mai dyma wythnos olaf y tymor, felly gallwn ni roi popeth i mewn i’r gêm a gadael popeth ar y cae.”
“Peidio â rhoi modfedd iddyn nhw”
Dywed Dan Biggar ei fod wedi mwynhau elfen gorfforol y gyfres yn erbyn pencampwyr y byd.
“Dw i wir wedi mwynhau’r ochr honno o’r gemau oherwydd dyna beth yw pwrpas rygbi ar y lefel uchaf.
“Yn sicr, doedden ni ddim eisiau dod yma, gorwedd i lawr a rholio’r carped allan ar gyfer y Springboks.
“Dw i wedi mwynhau’r hyn y mae’r tîm wedi’i wneud yn yr ystyr hwnnw, o ran peidio â rhoi modfedd iddyn nhw.
“Byddaf yn siomedig os ydyn ni’n gwneud pethau’n haws iddyn nhw ddêydd Sadwrn.”
Tîm Cymru:
L Williams, L Rees-Zammit, G North, N Tompkins, J Adams, D Biggar (capten), K Hardy; G Thomas, R Elias, D Lewis, W Rowlands, A Beard, D Lydiate, T Reffell, T Faletau.
Eilyddion:
D Lake, W Jones, S Wainwright, AW Jones, J Navidi, T Williams, G Anscombe, O Watkin.