Mae Cymru’n awyddus i wella ar y pedair medal enillon nhw yn y paffio yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018, wrth i’r Gemau gael eu cynnal yn Birmingham eleni.

Mae Chris Type, y Cyfarwyddwr Perfformiad, a Colin Jones, hyfforddwr Cymru, wedi bod yn amlinellu sut mae rhaglen breswyl amser llawn ar gyfer paffio yng Nghymru yn arwain at wobrau yn y gamp.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r gamp wedi bod ar i fyny yng Nghymru, ac fe ddaeth y penllanw pan ddaeth Lauren Price yn bencampwraig byd ac yn bencampwraig Olympaidd gyntaf Cymru.

Mae nifer o ymladdwyr hefyd wedi ennill medalau mewn Pencampwriaethau Hŷn a Than 22 Ewrop.

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni’r nifer uchaf o focswyr rydyn ni erioed wedi’u cael ar raglen Prydain Fawr – mae Cymru yn cyfrif am 20% o’r rhaglen – ac mae’r mwyafrif o’r rheiny ar y lefel uchaf o gefnogaeth,” meddai Chris Type.

“Mae hynny’n damaid rhyfeddol o fawr o’r gacen i genedl fechan.”

Hyderus

Dychwelodd ymladdwyr Cymru adref o Gemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn 2018 gyda phedair medal, dan arweiniad Lauren Price a greodd hanes drwy ddod y Gymraes gyntaf i ennill y fedal aur.

Ond er gwaethaf y ddwy fedal aur nodedig, ac arian ac efydd gan ymladdwyr Cymru yn Awstralia, mae Colin Jones yn hyderus y gallan nhw wella ar y nifer yn Birmingham.

“Ar yr Arfordir Aur, roedden ni’n hynod falch o’r hyn wnaethon ni ei gyflawni ac mae’r canlyniadau mewn gwirionedd yn rhoi Cymru yn bedwerydd yn y tabl medalau paffio,” meddai’r hyfforddwr a ddaeth yn bencampwr pwysau welter Prydain, y Gymanwlad ac Ewrop.

Wrth gwrs, fydd Lauren Price ddim yn cystadlu dros Gymru yr haf yma ar ôl troi’n broffesiynol.

“Rydyn ni’n uchelgeisiol iawn ac rydyn ni’n meddwl y gallwn ni wella ar ein cyflawniadau ar yr Arfordir Aur,” meddai Colin Jones.

“Ac mae hynny oherwydd y ffaith ein bod ni wedi ailddylunio ein rhaglen yn llwyr saith mlynedd yn ôl.

“Rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni rhaglen breswyl amser llawn yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ar gyfer paffwyr sydd ddim yn rhan eto o drefniant Prydain Fawr.

“Cyn hyn, roedd ein paffwyr ni wedi’u gwasgaru ledled Cymru ac fe fydden ni’n cyfarfod mewn gwersylloedd ond nawr mae’n llawer mwy cyson ac rydyn ni gyda’r bocswyr wythnos ar ôl wythnos.”

‘Cymaint mwy o amser cyswllt’

“Mae gennym ni gymaint mwy o amser cyswllt gyda’r paffwyr nawr,” meddai Chris Type, sydd yn Gyfarwyddwr Perfformiad ers saith mlynedd.

“Mae’n golygu bod gan ein paffwyr gorau ni yr hyfforddwyr gorau.

“Mae Colin yn arwain ochr baffio’r rhaglen ac mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth helaeth o’r hyn sydd ei angen i ddatblygu paffiwr i lefel ryngwladol yn anhygoel.”

Gan weithio ochr yn ochr â thîm Athrofa Chwaraeon Cymru, mae Paffio Cymru yn sicrhau bod ei dalentau yn rheoli maeth, ffordd o fyw, patrymau cysgu a rheoli pwysau.

“Dydych chi ddim yn gweld hyn i gyd ar ddiwrnod y gystadleuaeth ond mae’n gwbl hanfodol wrth ddatblygu paffiwr gwych,” meddai Chris Type.

Yn ôl Rosie Eccles, a enillodd fedal arian yng Ngemau’r Gymanwlad y tro diwethaf yn y categori 69kg, fod y rhaglen breswyl amser llawn wedi cael effaith eithriadol gadarnhaol.

“Mae wedi newid y gêm,” meddai.

“Roeddwn i’n 18 oed pan ddes i ar y rhaglen am y tro cyntaf – roedd gennym ni wersylloedd penwythnos rheolaidd ond doedd e byth yn ddigon.

“O 19 oed ymlaen, rydyn ni wedi bod â rhaglen amser llawn yn ei lle.

“Mae’n golygu ein bod ni’n cael hyfforddiant ac arweiniad o’r safon uchaf o un wythnos i’r llall.

“Rydyn ni’n hyfforddi deirgwaith y dydd gyda chymysgedd o redeg, ymarfer cryfder a phaffio.

“Mae Colin wedi creu diwylliant da iawn lle rydyn ni i gyd yn gweithio’n galed iawn.

“Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw hebddo fe a’r rhaglen mae Bocsio Cymru wedi’i chreu.

“Mae’r llwyddiant o ran niferoedd y bocswyr o Gymru ar raglen Prydain Fawr yn siarad drosto’i hun.”