Mae Nottingham Forest wedi denu Wayne Hennessey, golwr Cymru, o Burnley ar gytundeb dwy flynedd.
Mae’n ymuno â’i gyd-Gymro Steve Cooper, rheolwr y tîm sydd newydd ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Dechreuodd Hennessey, sy’n 35 oed, ei yrfa gyda Wolves gan chwarae 166 o weithiau dros wyth tymor, cyn symud i Crystal Palace yn 2014.
Ymunodd e â Burnley yn 2021, ac mae e wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair 183 o weithiau.
Yng nghrys Cymru, daeth ei gêm gyntaf yn erbyn Seland Newydd yn 2007, ac mae e wedi ennill 103 o gapiau dros ei wlad erbyn hyn, gan gynnwys chwarae rhan flaenllaw wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Bydd e’n ymuno â dau arall o chwaraewyr Cymru, Brennan Johnson ac un arall sydd newydd symud i’r clwb, Neco Williams.
“Dw i wedi wynebu Forest droeon yn y gorffennol, ac mae o’n glwb gwych,” meddai.
“Mae yno gefnogwyr gwych ac mae’r awyrgylch i fyny efo’r gorau sydd i’w gael yn y gêm.
“Bydd hi’n lefel wahanol rŵan rydan ni’n ôl yn yr Uwch Gynghrair.
“Dw i hefyd wedi chwarae efo ac yn erbyn nifer o chwaraewyr Forest.
“Mae o’n amser cyffrous iawn i ddod i mewn a fedra i ddim disgwyl i chwarae rhan a dechrau ymarfer yma yn Academi Nigel Doughty.”
Canu ei glodydd
Mae Wayne Hennessey eisoes wedi dechrau ymarfer gyda’r garfan cyn eu gêm gyfeillgar oddi cartref yn Barnsley ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16).
“Mae Wayne yn golwr ardderchog, sydd wedi profi ei hun ar y lefel uchaf dros nifer o flynyddoedd,” meddai Steve Cooper.
“Mae e wedi helpu Cymru i gyrraedd lefelau newydd yn y gêm ryngwladol, ac mae ganddo fe gyfoeth o brofiad yn yr Uwch Gynghrair.
“Fodd bynnag, mae Wayne hefyd yn gymeriad gwych ac mae’n ychwanegiad cryf iawn i ystafell newid Nottingham Forest.”