Mae timau criced Morgannwg a Swydd Nottingham wedi gorffen yn gyfartal yn y Bencampwriaeth yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Roedd yr ymwelwyr yn cwrso 455 i ennill, gan ddechrau’r diwrnod olaf ar 19 am un yn eu hail fatiad.

Ond ar lain oedd heb gynnig fawr o gymorth i fowlwyr Morgannwg, arhosodd y batwyr yn gadarn, wrth i Joe Clarke amddiffyn yn gadarn a sgorio 95, tra bod hanner canred hefyd i Lyndon James (76 heb fod allan).

Erbyn diwedd yr ornest, gyda’r chwaraewyr yn gadael y cae am 5.45yh, roedd Swydd Nottingham wedi cyrraedd 259 am bedair.

Bydd Morgannwg yn teimlo y gallen nhw fod wedi ennill yr ornest hon, er eu bod nhw’n herio tîm cryf sydd wedi arfer bod yn Adran Gynta’r Bencampwriaeth, ac sydd ond yn chwarae yn yr Ail Adran ar ôl tymor siomedig yn 2019, y tymor olaf cyn dechrau Covid-19 y defnyddiodd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr y canlyniadau i bennu’r adrannau eleni.

Manylion

Sgoriodd Morgannwg 356 yn eu batiad cyntaf, gyda Sam Northeast yn parhau â’i dymor llwyddiannus gyda 56, ac roedd cyfraniadau cadarn hefyd gan Kiran Carlson (46), Michael Neser (42), Andrew Salter (35) a Colin Ingram (34), wrth i Ben Hutton gipio pedair wiced am 76 i’r Saeson.

Cafodd Swydd Nottingham eu bowlio allan am 285 yn eu batiad cyntaf, gyda Matt Montgomery (80) a Haseeb Hameed (70) yn brif sgorwyr, gyda Lyndon James hefyd yn sgorio 50, wrth i Michael Hogan a James Harris gipio pedair wiced yr un i Forgannwg.

Blaenoriaeth batiad cyntaf o 33 oedd gan Forgannwg, felly, cyn i Eddie Byrom (144) sgorio’i ail ganred i’r sir yn dilyn ei ganred cyntaf yn erbyn Sussex, gyda Northeast hefyd yn sgorio 105 heb fod allan wrth i Forgannwg bentyrru rhediadau a chyrraedd 421 am bump cyn cau’r batiad.

Roedd hynny’n gadael nod o 455 i’r ymwelwyr ac fe ddechreuodd y batiad yn dda i Forgannwg, wrth i Hameed gael ei fowlio gan Hogan yn hwyr ar y trydydd diwrnod.

Ond roedd gormod gan y naill dîm a’r llall i’w wneud ar y diwrnod olaf.

Pan darodd Harris goes Montgomery o flaen y wiced, roedd y Saeson yn 21 am ddwy, ac fe ddaeth partneriaethau o 66 am y drydedd wiced a 97 am y bedwaredd wiced wrth i’r ornest lusgo tua’i therfyn.

Daeth y wiced fawr pan gafodd Joe Clarke ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr achlysurol Kiran Carlson, wrth i Forgannwg barhau i frwydro i ganfod unrhyw fath o gymorth yn y llain.

Erbyn diwedd y gêm, roedd Lyndon James wedi cyrraedd ei ail hanner canred yn yr ornest.

Mae’r canlyniad yn gadael Morgannwg yn drydydd wrth iddyn nhw gwrso dyrchafiad.