Mae Cameron Congreve, y chwaraewr canol cae 18 oed o Flaenau Gwent, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe tan 2025.

Chwaraeodd e bump o weithiau i’r tîm cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Roedd ei gytundeb blaenorol am ddod i ben yn ystod haf 2024, ac mae ei gytundeb newydd yn cynnwys opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn arall.

Llofnododd ei gytundeb proffesiynol cyntaf ym mis Mawrth, a hynny ar ôl bod gyda’r clwb er pan oedd e’n naw oed.

Fe fu’n chwarae i’r tîm dan 23 oed y tymor diwethaf hefyd, ond ar ôl cyfnod o salwch, fe ddaliodd e sylw Russell Martin a chael ei gyfle gyda’r tîm cyntaf, yn erbyn Blackpool, Caerdydd, Barnsley, Nottingham Forest a QPR.