Mae Dan Biggar, capten a maswr tîm rygbi Cymru, a’r prop Dillon Lewis yn holliach ar gyfer y prawf tyngedfennol olaf yn erbyn De Affrica yn Cape Town ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16).

Un newid yn unig sydd yn y tîm, gyda Josh Adams yn dychwelyd i’r asgell yn absenoldeb Alex Cuthbert, sydd wedi’i anafu.

Daw’r canolwr Owen Watkin i mewn ar y fainc.

Bydd enillydd y trydydd prawf yn cipio’r gyfres, ar ôl i Dde Affrica ennill o 32-29 yn Pretoria, cyn i Gymru ennill yr ail brawf o 13-12 yn Bloemfontein.

Bydd ffitrwydd Dan Biggar yn hwb i Gymru, ar ôl iddo wella o anaf i’w ysgwydd a ddioddefodd yn ystod yr ail brawf, gyda’r eilydd Gareth Anscombe yn cicio’r pwyntiau hwyr i ennill y gêm.

Roedd pryderon hefyd am benelin Dillon Lewis, yn enwedig yn sgil diffyg chwaraewyr rheng flaen yn absenoldebau Tomas Francis, Leon Brown a Samson Lee, gyda Sam Wainwright yn ennill ei gap cyntaf wrth i Gymru unioni’r gyfres.

Carreg filltir

Wrth ennill cap rhif 105, bydd George North yn pasio Stephen Jones fel yr olwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros dîm dynion Cymru.

Daeth ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2010 yng Nghaerdydd, pan sgoriodd e ddau gais.

Dim ond Alun Wyn Jones (152) a Gethin Jenkins (129) sydd wedi ennill mwy o gapiau dros Gymru.

Tîm Cymru: L Williams, L Rees-Zammit, G North, N Tompkins, J Adams, D Biggar (capten), K Hardy; G Thomas, R Elias, D Lewis, W Rowlands, A Beard, D Lydiate, T Reffell, T Faletau.

Eilyddion: D Lake, W Jones, S Wainwright, AW Jones, J Navidi, T Williams, G Anscombe, O Watkin.