Gall tîm rygbi Cymru godi gêr eto, meddai George North wrth edrych ymlaen at gêm olaf y gyfres yn Ne Affrica.

Fe wnaeth tîm dynion Cymru guro’r Springboks am y tro cyntaf yn Ne Affrica ddydd Sadwrn (Gorffennaf 9) gyda sgôr o 13-12, ar ôl cais gan Josh Adams a throsiad gan Gareth Anscombe yn y munudau olaf.

Roedd canlyniad y gêm yn Bloemfontein yn un “gwych” i Gymru, meddai George North, ar ôl iddyn nhw golli gornest gyntaf y gyfres yn Pretoria o 32-29.

Bydd y drydedd gêm yn cael ei chynnal yn Cape Town ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16) er mwyn penderfynu ar enillwyr y gyfres.

“Fe wnaethon ni ddod yma yn 2014 a methu â chael y canlyniad, ac mae wynebu pencampwyr y byd ar eu tir eu hunain yn anodd,” meddai George North.

“Fe wnaeth y gêm gyntaf osod y safon i’r ddau dîm. Roedd gennym ni lot o waith tacluso ein hymddygiad.

“Roedden ni’n teimlo’n ddrwg ar ôl yr wythnos ddiwethaf, yn enwedig yn sgil y ffordd orffennodd y gêm, felly mae dod yn ôl ac ennill un yn wych. Gydag un gêm ar ôl yn Cape Town mae’n adeiladu’r cyffro’n hyfryd.”

‘Dangos cymeriad’

Mae George North, a enillodd gap rhif 104 yn Bloemfontein, yn edrych ymlaen at her fwy fyth dros y penwythnos.

“Mae’r garfan mewn lle da iawn. Roedden ni’n teimlo ein bod ni am berfformio’n dda wrth baratoi,” meddai.

“Fe wnaethon ni ddangos cymeriad gwych wrth amddiffyn. Mae yna rai pethau i’w tacluso, ond roedd e’n gam mawr ymlaen o’r gêm gyntaf, a dw i’n meddwl bod gennym ni gêr arall.

“Dyna pam eich bod chi’n chwarae rygbi ar y lefel hon, ac yn rhoi eich hun drwy bob munud o boen – er mwyn cael eich hun mewn sefyllfa i chwarae gemau fel hyn yn Cape Town.

“Roedd y gêm gyntaf yn gêm Brawf go iawn, pwynt oedd ynddi yn yr ail gêm, ac mae hynny’n ein paratoi ni’n neis ar gyfer y trydydd Prawf yn Cape Town. Dw i’n siŵr y bydd Cape Town yn brofiad gwych.”