Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Nottingham, sydd ar frig ail adran y Bencampwriaeth, yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 11).
Mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten a’r wicedwr Chris Cooke yn dychwelyd ar ôl anafiadau i’w coesau, gyda Cooke wedi dychwelyd ar gyfer dwy gêm ugain pelawd yn niwedd y Vitality Blast.
Mae Swydd Nottingham ar frig y tabl, a Morgannwg yn drydydd, gyda 23 o bwyntiau rhyngddyn nhw.
Pan heriodd y ddwy sir ei gilydd yn Trent Bridge yn gynharach eleni, roedd Morgannwg yn fuddugol o saith wiced.
Yn y gêm flaenorol rhyngddyn nhw yng Ngerddi Sophia yn 2017, gorffennodd yr ornest yn gyfartal ar ôl i Chris Cooke a Colin Ingram fatio drwy’r dydd ac adeiladu partneriaeth o 226, ar ôl i Forgannwg orfod canlyn ymlaen.
Cyn hynny, doedden nhw ddim wedi herio’i gilydd ers 2005, pan darodd Alex Wharf ganred yn ofer ar ôl canred gan Darren Bicknell i’r Saeson.
Daeth buddugoliaeth ddiwethaf Morgannwg dros Swydd Nottingham yng Nghaerdydd yn 1995, pan darodd Hugh Morris ganred yn y naill fatiad a’r llall.
Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), E Byrom, K Carlson, C Cooke, T Cullen, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Neser, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, T van der Gugten
Carfan Swydd Nottingham: S Budinger, J Clarke, J Evison, L Fletcher, Haseeb Hameed, C Harrison, B Hutton, L James, M Montgomery, S Mullaney (capten), D Paterson, L Patterson-White, B Slater