Er i Gymru golli’r gêm yn erbyn De Affrica mewn modd dramatig a phoenus ar y naw, mae Dan Biggar eisiau I’r chwaraewyr gofio’r hyn oedd yn dda am eu perfformiad y diwrnod hwnnw, wrth iddyn nhw wynebu’r Bociaid eto heddiw.

Bydd y gêm rhwng De Affrica a Chymru yn cychwyn toc wedi pedwar yn y Toyota Stadium yn Bloemfontein, gyda sylwebaeth ar Radio Cymru ac uchafbwyntiau estynedig i ddilyn ar S4C am naw y nos. Mae’r gêm i’w gweld yn fyw ar Sky Sports.

Fe gollodd Cymru yr ornest gyntaf 32-29 yn Pretoria.

Ac er bod disgyblaeth y Cymry wedi bod yn wael y prynhawn hwnnw, roedd yna ddigon o chwarae disglair ac addawol yn erbyn Pencampwyr Rygbi’r Byd.

A gosod y pwyslais ar y positif wnaeth y capten ar derfyn y golled, wrth iddo geisio rhoi hyder I’r chwaraewyr ar gyfer yr ail brawf.

“Tydan ni ddim y rhai gorau am ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dda yng Nghymru, felly fe wnes i’r pwynt bod angen gwneud hynny a chael golwg ar yr hyn fedran ni ei wella,” meddai Dan Biggar.

“Ac rydw i yn credu bod angen ailadrodd y neges honno i’r garfan hon – eu bod yn gallu cystadlu gyda’r gorau o’r goreuon, a dyna ydy De Affrica.”

Mae’r hyfforddwr wedi newid un chwaraewr o’r 15 gychwynodd y prawf cyntaf, gydag Alex Cuthbert yn disodli Josh Adams ar yr asgell.

Tîm Cymru: L Williams, L Rees-Zammit, G North, N Tompkins, A Cuthbert, D Biggar (capten), K Hardy; G Thomas, R Elias, D Lewis, W Rowlands, A Beard, D Lydiate, T Reffell, T Faletau.

Eilyddion: D Lake, W Jones, S Wainwright, AW Jones, J Navidi, T Williams, G Anscombe, J Adams.