Mae Cameron Norrie yn cyfaddef ei fod yn wynebu un o’r talcenni caletaf ym myd tenis wrth iddo fynd ben-ben gydag un o’r chwaraewyr gorau erioed y prynhawn yma yn Wimbledon.

Daw mam Cameron Norrie, Helen, o Gaerdydd, ac yn ystod twrnament Wimbledon eleni mae prif chwaraewr tenis Prydain wedi gwneud enw iddo’i hun gyda’i berfformiadau llawn calon a grit.

Ond mae ganddo dasg a hanner ar ei ddwylo’r prynhawn yma wrth iddo wynebu Novak Djokovic yn y rownd gynderfynol.

Mae’r Serbiad 35 oed yn llygadu ei bedwaredd buddugoliaeth yn olynol yn Wimdledon, twrnament y mae wedi ei ennill chwe gwaith.

Djokovic yw’r prif ddetholyn a’r ffefryn o ddigon i gipio tlws tenis enwoca’r blaned eto’r flwyddyn hon.

O Dde Affrica i Putney

Wedi ei eni yn Ne Affrica a’i fagu yn Seland Newydd, mae Cameron Norrie yn llwyr ymwybodol o anferthedd yr her ar brif gwrt Wimbledon y prynhawn yma, mewn gornest sydd yn fyw ar BBC 1.

“Mae am fod yn gêm galed o gofio record Djokovic yma yn Wimbledon,” meddai Cameron Norrie wrth y BBC.

“Yn amlwg, gwair yw ei hoff fath o gwrt tenis. Mi fyddwn i yn dweud mai dyma un o’r heriau anoddach yn y byd tenis.”

Cameron Norrie yw’r nawfed detholyn, a chyn hyn nid oedd wedi mynd ymhellach na’r drydedd rownd mewn unrhyw bencampwriaeth Grand Slam.

Ac mae ei lwyddiant eleni yn golygu ei fod mewn cwmni dethol iawn – dim ond tri Phrydeiniwr arall sydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Wimbledon yn y cyfnod modern, sef Andy Murray, Tim Henman a Robert Taylor.

Mae Cameron Norrie yn cyfaddef nad yw wedi cael amser i brosesu’r holl sylw sydd wedi dod yn sgîl ei lwyddiant.

Bu yn seiclo i Wimbledon o’i fflat yn Putney ac mae pobol wedi bod yn ei adnabod ar y stryd, meddai.

“Yn amlwg, mae yna lot o heip a phobol yn dilyn y bencampwriaeth o bedwar ban byd.

“Mae yna beth wmbreth o bethau i ddygymod â nhw, ond mae yn rhaid i mi geisio gostegu a chanolbwyntio ar yr elfennau craidd. Mae yn rhaid i mi fod yn barod ar gyfer gornest fwyaf fy ngyrfa.”

Bydd enillydd yr ornest rhwng Djokovic a Norrie yn wynebu’r Awstraliad Nick Kyrgios yn y ffeinal b’nawn Sul.

 

Y tenis a’r Tai Haf

Barry Thomas

“A sôn am beli a chyrtiau, pa mor hyfryd yw cael mwynhau’r tenis yn Wimbledon?”