Mae Anwen Butten, sy’n nyrs ganser gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth ei gwaith bob dydd, wedi’i phenodi’n gapten ar dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham.

Mae hi’n un o athletwyr mwyaf profiadol Cymru, ac wedi cynrychioli ei gwlad ym mhob Gemau’r Gymanwlad ers 2002.

Rhain fydd ei chweched Gemau yng nghrys Cymru, ac mae ganddi ddwy o fedalau.

Cafodd ei hysbrydoli gan ei mam i chwarae bowls pan oedd hi’n 13 oed, a hithau’n cystadlu’n rhyngwladol hefyd, ac mae hi wedi trosglwyddo’r diddordeb yn y gamp i’w phlant.

Wrth i Gymru cyhoeddi eu capten, mae Anwen Butten wedi bod yn ymweld ag Ysgol Gynradd Dolbadarn i drafod ei phrofiadau o gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a chynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Cafodd yr ysgol eu dewis i helpu i adrodd stori cit Cymru ar gyfer y Gemau, gyda mynyddoedd Eryri yn gweddu’n berffaith i neges ac arwyddair Cymru o fod eisiau cyrraedd y copa.