Mae Dylan Levitt yn gobeithio y bydd chwarae’n rheolaidd i Dundee United yn helpu i sicrhau ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar.

Mae’r gŵr 21 oed wedi symud i’r Alban o Manchester United ar gytundeb dwy flynedd, ar ôl treulio’r tymor diwethaf yno ar fenthyg.

Mae lle i gredu bod y ffi gychwynnol yn agos at £300,000 ond y gallai godi, ac mae gan Manchester United gymal gwerthu ymlaen o 25%.

Mae gan y chwaraewr canol cae 12 o gapiau dros Gymru, a helpodd ei berfformiadau Dundee United i sicrhau eu lle yn rowndiau cyntaf Cyngres Ewropa y tymor hwn.

“Dw i wrth fy modd, yn enwedig gan ein bod yn chwarae yn Ewrop,” meddai mewn cyfweliad gyda Dundee United TV.

“Roedd hwnnw’n fonws enfawr wrth ddod yn ôl.

“Dw i jyst eisiau chwarae’n rheolaidd.

“Dw i yn yr oedran lle mae angen i mi chwarae gemau, yn enwedig wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd.

“Wrth chwarae gemau, rydych chi’n adeiladu hyder a dw i am arddangos yr hyn y gallaf ei wneud.

“Fe ges i anaf fach y tymor diwethaf, ond pan ddes i’n ôl dw i’n teimlo mod i wedi chwarae yn dda, yn enwedig tuag at ddiwedd y tymor a dw i jyst eisiau cario hynny ymlaen.

“Dw i eisiau dechrau’r tymor yn ffit, dechrau’n gryf, osgoi anafiadau ac yna pan ddaw Cwpan y Byd, cael fy newis yng ngharfan Cymru.”