Mae’r chwaraewr canol cae Flynn Downes wedi ymuno â West Ham o Abertawe.

Mae ei drosglwyddiad bellach yn agor y drws i Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru, ddychwelyd i Stadiwm Swansea.com – trosglwyddiad y bu cryn ddyfalu a thrafod yn ei gylch ers tro.

Dydy’r union ffi ddim wedi cael ei ddatgelu, ond fe fydd yn gymorth i’r Elyrch ddenu chwaraewyr newydd wrth iddyn nhw barhau i fod yn ofalus ar ôl gostwng o’r Uwch Gynghrair rai blynyddoedd yn ôl.

Treuliodd e un tymor yn unig gyda’r Elyrch ar ôl symud o Ipswich, gan greu partneriaeth gadarn yng nghanol cae gyda’r capten Matt Grimes, a Downes oedd â’r ganran uchaf o basys llwyddiannus yn y Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd e 39 o weithiau i dîm Russell Martin, gan sgorio un gôl, yn erbyn Huddersfield, a chafodd ei benodi’n gapten yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Southampton.

Bydd Downes yn ymuno â’r tîm mae’n ei gefnogi er pan oedd e’n blentyn, ac fe fydd e’n cael y cyfle i frwydro am le yn y tîm ar gyfer eu hymgyrch Ewropeaidd.