Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi un newid i’r tîm ar gyfer yr ail brawf yn erbyn De Affrica yn Bloemfontein ddydd Sadwrn (Gorffennaf 9, 2.05yp).

Daw Alex Cuthbert i mewn ar yr asgell yn lle Josh Adams, a bydd yn ennill cap rhif 52 dros ei wlad.

Bydd y gêm yn fyw ar Sky Sports Action, gydag uchafbwyntiau ar S4C.

Bydd George North yn dechrau yn y canol, gan ddod yn gyfartal â Stephen Jones fel yr olwr sydd â’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru (104), a bydd yn cadw cwmni i Nick Tompkins.

Dim ond Alun Wyn Jones, sydd ar y fainc, a Gethin Jenkins sydd â mwy o gapiau dros Gymru, gyda’r naill wedi ennill 151 a’r llall wedi ennill 129.

Mae Sam Wainwright wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf, a gallai ennill ei gap cyntaf pe bai’n dod oddi ar y fainc.

Mae Wyn Jones a Josh Adams hefyd ar y fainc.

Canu clodydd Alex Cuthbert

Mae Wayne Pivac wedi canu clodydd Alex Cuthbert, gan ganmol ei allu yn yr awyr.

“Mae Alex Cuthbert wedi bod yn ymarfer yn dda iawn,” meddai.

“Mae e’n 6’4”, yn dda yn yr awyr ac yn rhedeg drwy’r dydd.

“Dw i’n credu y bydd digon o frwydrau yn yr awyr.

“Mae Sam Wainwright wedi cyffroi’n fawr o gael ymuno â ni.

“Ers y diwrnod cyntaf, mae e wedi bod yn ymarfer yn dda iawn.

“Dw i’n gwybod ei fod e ar ben ei ddigon o gael ei ddewis ymhlith y 23 ar ddiwrnod y gêm, ac mae ei deulu draw felly mae e’n edrych ymlaen at y diwrnod mawr.”

Tîm Cymru: L Williams, L Rees-Zammit, G North, N Tompkins, A Cuthbert, D Biggar (capten), K Hardy; G Thomas, R Elias, D Lewis, W Rowlands, A Beard, D Lydiate, T Reffell, T Faletau.

Eilyddion: D Lake, W Jones, S Wainwright, AW Jones, J Navidi, T Williams, G Anscombe, J Adams